Ellie Kemper

Oddi ar Wicipedia
Ellie Kemper
Ganwyd2 Mai 1980 Edit this on Wikidata
Dinas Kansas Edit this on Wikidata
Man preswylManhattan Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
Galwedigaethactor, actor teledu, actor ffilm, actor llais, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
TadDavid Woods Kemper Edit this on Wikidata
Tîm/auPrinceton Tigers field hockey Edit this on Wikidata

Actores o Unol Daleithiau America yw Ellie Kemper (ganwyd 2 Mai 1980) sy'n cael ei hystyried yn nodedig am ei gwaith fel actor, actor teledu, actor ffilm, actor llais ac awdur.

Bywyd[golygu | golygu cod]

Mae Elizabeth Claire Kemper yn actores Americanaidd ac yn ddigrifwraig. Cafodd ei geni yn Kansas City, Missouri, i Dorothy Ann (Jannarone) a David Woods Kemper, mab un o deuluoedd cyfoethocaf Missouri. Symudodd ei theulu i St Louis pan oedd Kemper yn bum mlwydd oed a chafodd ei magu yn Babydd. Mae’n briod a chanddi ddau o feibion.[1][2]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Mynychodd Ellie Kemper y Ysgol Gynradd Conway ym maestref cyfoethog Laude, Missouri, ac yna ysgol uwchradd John Burrows. Lle datblygodd ddiddordeb yn y theatr a chomedi byrfyfyr. Graddiodd o Brifysgol Princeton yn 2002 lle bu’n astudio Saesneg. Bu hefyd yn astudio ar gyfer gradd bellach mewn Saesneg yn Coleg Caerwrangon, Rhydychen.  Tra oedd yn fyfyrwraig yn Princeton datblygodd ei diddordeb mewn comedi byrfyfyr ymhellach a bu’n rhan o’r grŵp comedi Quipfire yn ogystal â’r Princeton Triangle Club. Yn ystod ei gyrfa mae wedi ymddangos mewn sawl rhaglen deledu a radio ac mae hi ei hun hefyd wedi ysgrifennu sawl sioe sgest gomedi – nifer ohonynt ar y cyd gyda Scott Eckert a oedd yn fyfyrwir gyda hi yn Princeton. Yn 2007 ymddangosodd mewn perfformiad o’r enw How To Kick People, oedd yn cyfuno comedi gyda pherfformiadau llenyddol. Ysgrifennodd a pherfformiodd yn ei sioe un ddynes gyntaf, Dumb Girls yn 2008.  Un o’r rhannau amlycaf iddi ei chwarae ar y teledu yw’r cymeriad Erin Hannon yn y gyfres The Office. Mae hefyd yn ymddangos yn y gyfres gomedi wreiddiol Unbreakable Kimmy Schmidt ar Netflix. Mae ei pherfformiad yn y rhaglen hon wedi cael ei gymeradwyo gan sawl un, a derbyniodd sawl enwebiad ar gyfer y Screen Actors Guild Award a’r Primetime Emmy Award for Outstanding Lead Actress in a Comedy Series. Cyhoeddodd ei chyfrol gyntaf, My Squirrel Days yn 2019.[3][4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Bridal for Dorothy A. Jannarone". The New York Times. 7 Medi 1975.
  2. O'Hare, Kate (12 Gorffennaf 2016). "Ellie Kemper of 'The Unbreakable Kimmy Schmidt' Talks Being Catholic With Stephen Colbert". Family Theater Productions. Cyrchwyd 3 Ionawr 2016.
  3. Pennington, Gail (13 Rhagfyr 2009). "From VP queen ...to 'The Office'". St. Louis Post-Dispatch. Cyrchwyd 16 Rhagfyr 2010.
  4. ""Company Picnic" Q&A with Jen Celotta". OfficeTally. May 22, 2009. Cyrchwyd 23 Mai 2009.