El Ksar

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
El Ksar

Dinas yn ne-orllewin canolbarth Tiwnisia yw El Ksar (Arabeg: القصر "Y Gaer") neu Ksar sy'n gorwedd yn union i'r gorllewin o ddinas Gafsa gyda dyffryn Oued Bayech yn eu gwahanu. Poblogaeth: 29,617 (2004) yn cynnwys bwrdeistref Lalla; 13,598 yn y ddinas ei hun.[1]

Ceir gwerddon yno, a rennir rhwng El Ksar a Gafsa, sy'n cael ei dyfrio gan ffynnon El Faouara.

Mae'n adnabyddus yn bennaf fel lleoliad Maes Awyr Rhyngwladol Gafsa-Ksar.

Cyfeiriadau[golygu]

Dolen allanol[golygu]

Flag of Tunisia-2.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Diwnisia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.