Gafsa
Oddi ar Wicipedia
Dinas yn Tunisia yw Gafsa (hefyd Qafsah; Arabeg: قفصة), sy'n brifddinas talaith Gafsa. Amcangyfrifir fod tua 90,000 o bobl yn byw ynddi, sy'n ei gwneud y ddinas 9fed fwyaf yn Tunisia.
Dinas ddiwydiannol ydyw, sy'n ganolfan i'r diwydiant mwyngloddio ffosffad. Bu'n ddinas Rufeinig a cheir olion baddonai Rhufeinig yno. Mae'n gorwedd 369 km i'r de-orllewin o Tunis.
Yn Ionawr 2008 bu gwrthdystio ar raddfa helaeth yn erbyn llywodraeth yr Arlywydd Ben Ali yn Gafsa. Gelwir hyn yn "wrthryfel" gan rai. Ni chafodd ei grybwyll o gwbl gan gyfryngau Tunisia. Dywedir fod y llywodraeth wedi cymryd camrau llym yn erbyn y protestwyr.[1]