Eirlithriad

Oddi ar Wicipedia
Eirlithriad yn yr Himalaya ger Mynydd Everest.

Eirlithriad yw symudiad sydyn eira, yn aml yn gymysg ag aer a dŵr, i lawr ochr mynydd. Gallant fod yn un o'r peryglon mwyaf yn y mynyddoedd.

Ceir perygl o eirlithriad pan mae eira yn gorwedd ar ochr mynydd sydd a goleddf rhwng 25 gradd a 60 gradd. Os yw'r oleddf yn llai na 25 gradd, nid oes llawer o berygl y bydd yr eira yn symud, tra ar oleddf o fwy na 60 gradd nid yw'r eira yn casglu. Ceir y perygl mwyaf ar oleddf o tua 38 gradd. Gall pobl yn cerdded ar yr eira ddechrau eirlithriad, a gall fod yn berygl mawr i ddringwyr a sgïwyr. Mewn ardaloedd lle mae sgïo yn boblogaidd, defnyddir nifer o ddulliau i osgoi eirlithriadau, er enghraifft defnyddio ffrwydron neu adeiladu muriau i atal yr eira.

Ar 31 Mai, 1970, achosodd Daeargryn Ancash eirlithriad mawr oddi ar lechweddau Huascaran, gan ddinistrio tref Yungay, Periw a lladd o leiaf 18,000 o bobl. Yn yr Alpau, lladdwyd tua 50,000 o filwyr gan eirlithriadau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn ystod gaeaf 1951-1952 cofnodwyd 649 o eirlithriadau yn yr Alpau, a lladdwyd tua 265 o bobl.

Ym Mhrydain, mae mwyafrif yr eirlithriadau yn digwydd yn yr Alban, ond allwn nhw ddigwydd yng Nghymru a Lloegr hefyd.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]