Eglwys Gadeiriol Chartres
Oddi ar Wicipedia
Eglwys Gadeiriol Chartres yw un o'r enghreifftiau gorau yn Ewrop o eglwysi cadeiriol arddull Gothig yn Ewrop. Saif yng nghanol dinas Chartres, prifddinas hanesyddol département Eure-et-Loir, yng ngogledd Ffrainc.
Mae prif adeiladwaith yr eglwys gadeiriol yn dyddio i'r 12fed ganrif a dechrau'r 13eg ganrif, ond mae'r crypt yn hŷn ac yn dyddio o'r 11eg ganrif. Mae'r eglwys yn enwog am ei ffenestri gwydr lliw ysblennydd, yn enwedig y ffenestri rhosod anferth. Ceir nifer o gerfluniau canoloesol gwych yn ogystal.
Cofnodir yr eglwys gadeiriol gan UNESCO fel un o Safleoedd Treftadaeth y Byd.