Gwydr lliw
Oddi ar Wicipedia
Gall gwydr lliw gyfeirio at unrhyw wydr sydd wedi ei liwio, ond fel rheol mae'n cyfeirio ar ffenestri lle defnyddir darnau o wydr o wahanol liwiau i greu llun neu batrwm. Mae gwydr lliw o'r math yma yn arbennig o nodweddiadol o eglwysi.
Ceir ychydig o esiamplau mewn eglwysi yn dyddio o'r 11eg ganrif a'r 12fed ganrif. Mae ffenestri lliw yn arbennig o nodweddiadol o adeiladau eglwysig yn yr arddull Gothig o'r 13eg ganrif ymlaen.
Ymhlith yr esiamplau enwocaf, mae'r gwydr lliw yn eglwys y Sainte Chapelle ym Mharis, yn Eglwys Gadeiriol Chartres ac yn Eglwys Gadeiriol Cwlen.