Edward Norton
Oddi ar Wicipedia
| Edward Harrison Norton | |
|---|---|
Norton ar noson agoriadol The Illusionists |
|
| Ganwyd | 18 Awst, 1969 Boston, Massachusetts, |
| Yn enwog am | Primal Fear, American History X |
| Galwedigaeth | Actor, sgriptiwr, cynhyrchydd, cyfarwyddwr ffilm |
Actor, sgriptiwr a chyfarwyddwr ffilm Americanaidd yw Edward Harrison Norton (ganed 18 Awst, 1969). Ym 1996, derbyniodd enwebiad am Wobr yr Academi am yr Actor Gorau mewn Rôl Gefnogol am ei ran yn y ddrama Primal Fear. Flwyddyn yn ddiweddarach, fe'i enwebwyd am Wobr yr Academi am yr Actor Gorau am ei ran yn American History X. Mae ei ffilmiau eraill yn cynnwys dramâu cyfnod fel Kingdom of Heaven (2005), The Illusionist (2006), a The Painted Veil (2006); mae ei ffilmiau nodedig eraill yn cynnwys Rounders (1998), Fight Club (1999), 25th Hour (2002), Red Dragon (2002), a The Incredible (2008).