Édith Piaf
Cantores o Ffrainc oedd Édith Piaf (ganed Édith Giovanna Gassion) (19 Rhagfyr 1915 - 11 Hydref 1963). Cafodd ei geni ym Mharis. Adlewyrchai'r caneuon a ganai ei bywyd, ac arbenigodd mewn canu caneuon serch. Ymhlith ei chaneuon enwocaf mae "La Vie en Rose" (1946), "Hymne à l'Amour" (1949), "Milord" (1959), "Non, Je Ne Regrette Rien" (1960), "l'Accordéoniste" (1955), "Padam... Padam..." (1951), a "La Foule" (1957).
Cynnwys |
Ei bywyd cynnar [golygu]
Er gwaethaf nifer o gofiannau amrywiol, ceir cryn dipyn o ansicrwydd am fywyd Piaf. Fe'i ganed yn Édith Giovanna Gassion yn Belleville, Paris, a oedd yn ardal o fewnlifiad uchel. Yn ôl yr hanesion, cafodd eo geni ar bafin Rue de Belleville 72, ond dywed ei thystysgrif geni mai yn Hôpital Tenon [1] y'i ganed.
Cafodd ei henwi'n Édith ar ôl nyrs Brydeinig o'r Ail Ryfel Byd, Edith Cavell, a ddienyddiwyd am helpu milwyr Ffrengig i ddianc rhag yr Almaenwyr.[2] Roedd Piaf—a yn derm llafar am ddryw a daeth hyn yn ffugenw iddi ugain mlynedd yn ddiweddarach.
Caneuon enwog [golygu]
- "La Vie en Rose" (1946)
- "Milord" (1959)
- "Non, Je Ne Regrette Rien" (1960)
Dolenni allanol [golygu]
- (Saesneg) A tribute
- (Saesneg) Paris Edith Piaf
- (Ffrangeg) Les conquêtes de Piaf
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Radio France Internationale Musique. Adalwyd ar 2009-09-03
- ↑ Two Paris Love Stories Paris Kiosque. Chwefror 1998. Adalwyd ar 2007-08-09