Ecser
Mae Ecser yn bentref yn sir Pest yn Hwngari yn agos i Budapest.
Cynnwys |
Lleoliad [golygu]
Mae gan Ecser (yngenir ɛʧɛr) enw Slofaceg hefyd sef Ečer gan fod ganddi boblogaeth Slofacaidd fach. Mae hi wedi ei lleoli i dde-orllewin Budapest, yn agos i Faes Awyr Rhyngwladol Ferihegy. Yr aneddiadau cyfagos yw Malgód, Vecsés ac Üllő. Mae traffordd yr M0 yn arwain yn agos i'r bentref ac mae'r bentref wedi ei lleoli ar y rheilffordd 120a (Budapest-Újszász-Szolnok).
Hanes [golygu]
Daw'r cofnod ysgrifenedig cyntaf am fodolaeth y bentref o Ragfyr 15 1315, er roedd y pentref yn bodoli ers 896 pan gyrhaeddodd yr Hwngariaid. Yn ôl myth lleol, daw enw'r bentref o Frenin Mawr Árpád a aeth i'r anheddiad i orffwys, gan ofyn i'r bobl leol am enw'r lle. Pan na wnaeth y bobl leol ymateb dywedodd wrthynt i alw'r lle ar ôl y dderwen yn y bentref, cser.
Yn ystod trechedd y Twrciaid o 1526 i 1686, bu farw'r pentref, yn enwedig ar ôl gwarchae Buda. Ail-gyrhaeddodd y preswylwyr yn 1699. Yn ystod Rhyfel Annibyniaeth Rákóczi, bu 11 milwr o Ecser yn ymladd.
I'w nodi [golygu]
- Yr unig gofadail yn y bentref yw'r Eglwys Gatholig o 1740.
- O'r bentref hon daw'r ddawns werin fyd-enwog Priodas yn Ecser (Ecseri lakodalmas)
- Ar darian y bentref gwelwyd yr eglwys, y ddawns werin, a'r dderwen, y tair argoel fwyaf pwysig i'r bentref.