Dwmbwr-dambar

Oddi ar Wicipedia
Dwmbwr-dambar
MathReid ffair Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Dwmbwr-dambar yng Ngŵyl Ynys Wyth

Reid ffair yw dwmbwr-dambar (lluosog: dwmbwr-dambars)[1] gyda llithren sy'n troelli o gwmpas tŵr. Mae reidwyr yn esgyn grisiau y tu mewn i'r tŵr ac yn llithro o ben y dwmbwr-dambar i'r gwaelod ar sach neu fat, a wneir yn aml o hesian neu ddefnydd tebyg.

Etymoleg[golygu | golygu cod]

Ceir y cofnod archifiedig cynharaf o'r gair dwmbwr-dambar o 1815, o bosib o'r Saesneg, tumble ac yn fath o ymadrodd dynwaredol.[2]

Lleoliadau dwmbwr-dambar Cymru[golygu | golygu cod]

Dwmbwr-dambar ac Olwyn Fawr yn Folly Farm

Ceir sawl dwmbr-dambar ar draws Cymru, fel rheol mewn Ffeiriau ac yn aml dros dro, er enghraifft, mewn Ffair Aeaf neu Sioe Amaethyddol.

Ceir Dwmbwr-dambar sefydlog yn atyniad hwyl ac anifeiliaid Folly Farm ger Dinbych-y-Pysgod yn Sir Benfro.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Geiriadur yr Academi, [helter-skelter].
  2.  dwmbwr-dambar. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 10 Awst 2022.
Eginyn erthygl sydd uchod am adloniant neu hamdden. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.