Drws

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio

Gorchudd symudol yw drws, sy'n cael ei ddefnyddio er mwyn cuddio neu dadorchuddio agoriad. Caiff drysau eu canfod mewn canolfuriau neu waliau, mewn ystafelloedd, cypyrddau, cerbydau neu gynwysyddion.

Defnyddir drysau er mwyn:

  • cadw eitemau, pobl ac anifeiliaid o fewn ystafell, cynhwysydd neu gerbyd
  • rheoli tymheredd gwagle (mewn ystafell yn y tŷ, neu mewn oergell)
  • cadarnhau preifatrwydd ac atal sŵn

[golygu] Mathau o drysau

  • Mae drws cylchdroi yn troi mewn cylch fel gall bobl deithio i fewn neu allan o adeilad, heb golli gwres gormodol ac i gadw tywydd garw allan. Defnyddir rhain gan amlaf lle mae llawer o draffig.
  • Mae drws ddall yw drws ffug sydd wir yn rhan o'r wal, addurniadol yw rhain.
  • Mae drws uwch-a-dros yn cael ei ddefnyddio yn aml mewn garej. Yn hytrach na dibynnu, mae'n rholio ar reiliau er mwyn iddo aros yn uwch na'r agorfa.
  • Mae drws tân yw drws nad yw'n gadael tân drwyddo. Gwneuthurir rhain o ddur fel rheol.