Diwygiad Methodistaidd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Y Diwygiad Methodistaidd yw'r term a ddefnyddir am yr adfywiad crefyddol yn y ddeunawfed ganrif yng Nghymru, a gysylltir yn bennaf a Daniel Rowland, Howell Harris a William Williams, Pantycelyn. Roedd yn adfywiad o fewn Eglwys Loegr ar y cychwyn, ond yn ddiweddarach, arweiniodd at greu'r Methodistiaid Calfinaidd, yn awr Eglwys Bresbyteraidd Cymru, fel enwad ymneilltuol.

Er nad oedd ganddo ran uniongyrchol yn y Diwygiad Methodistaidd, ystyrir Griffith Jones, Llanddowror (1684 - 1761) fel tad ysbrydol y mudiad. Roedd ei ysgolion cylchynol ef wedi dysgu miloedd lawer o'r werin i ddarllen, felly gallent ddarllen y Beibl trostynt eu hunain. Fel rheol, ystyrir i'r Diwygiad ddechrau gyda throedigaeth Howell Harris yn ehlwyd Talgarth yn 1735. Dechreuodd gynnal cyfarfodydd yn ei gatref ym mhentref Trefeca. Yn fuan wedyn, cafodd Daniel Rowland droedigaeth, yna yn 1737 cafodd William Williams, Pantycelyn, droedigaeth wrth wrando ar Harris yn pregethu ym mynwent Talgarth.

Teithiodd Harris a William Williams lawer o amgylch Cymru yn pregethu, ac erbyn 1750 roedd dros 400 o seiadau wedi eu ffurfio. Yn 1762 bu diwygiad mawr yn Llangeitho dan arweiniad Daniel Rowland.

Baner CymruEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.