Diwrnod Mamiaith Rhyngwladol

Oddi ar Wicipedia
Diwrnod Mamiaith Rhyngwladol
Enghraifft o'r canlynoldiwrnod rhyngwladol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2000 Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.un.org/en/observances/mother-language-day, https://www.un.org/fr/observances/mother-language-day, https://www.un.org/es/observances/mother-language-day, https://www.un.org/ru/observances/mother-language-day, https://www.un.org/ar/observances/mother-language-day, https://www.un.org/zh/observances/mother-language-day Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Shaheed Minar, Cofeb y Merthyron, ar gampws Prifysgol Dhaka, Dhaka, Bangladesh, sy'n cofio'r aberth yn yr ymgyrch i godi statws yr iaith Bangla ar 21 Chwefror 1952

Diwrnod a gyhoeddwyd gan UNESCO i hyrwyddo amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol ac amlieithrwydd yw'r Diwrnod Mamiaith Rhyngwladol. Yn 1999, cyhoeddodd UNESCO 21 Chwefror yn Ddiwrnod Mamiaith Rhyngwladol, mewn teyrnged i Bhasha Andolon (Mudiad yr Iaith Fengaleg), mudiad iaith ym Mangladesh, ac er mwyn cefnogi a hyrwyddo hawliau grwpiau ethnig-ieithyddol ledled y byd.

Yn 1948 roedd Bangladesh (Dwyrain Pacistan) yn rhan o wladwriaeth newydd Pacistan. Cyhoeddodd Llywodraeth Pacistan mai Wrdw — iaith Gorllewin Pacistan yn bennaf — yn unig fyddai'r iaith genedlaethol, ac arweiniodd hyn at brostestiadau niferus gan siaradwyr Bengaleg Dwyrain Pacistan. Yn wyneb hynny a'r tensiynau enwadol ac anfodlonrwydd cyffredinol am y ddeddf newydd, gwaharddodd y llywodraeth gyfarfodydd cyhoeddus a ralïau. Ond penderfynodd myfyrwyr Prifysgol Dhaka ac ymgyrchwyr gwleidyddol eraill herio'r gyfraith a threfnu protest iaith ar 21 Chwefror 1952 yn y brifddinas, Dhaka. Torwyd y brotest i fyny gan yr heddlu a lladdwyd rhai o'r myfyrwyr. Arweiniodd y marwolaethau hynny at sefyllfa o ansefydlogrwydd sifil ar raddfa eang a arweinwyd gan y Cynghrair Mwslim Awami (Cynghrair Awami yn ddiweddarach). Ar ôl rhai blynyddoedd o wrthdaro, ildiodd y llywodraeth ganolog a rhoddwyd statws swyddogol i'r Fengaleg yn 1956.

Dethlir y Diwrnod Mamiaith Rhyngwladol fel gŵyl gyhoeddus genedlaethol ym Mangladesh.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]