Dino Dines
Oddi ar Wicipedia
Chwaraewr allweddellau Seisnig oedd Peter Leslie "Dino" Dines (17 Rhagfyr 1944 – 28 Ionawr 2004), a oedd yn fwyaf adnabyddus am ei waith gyda'r band T. Rex. Gweithiodd hefyd gyda The Keef Hartley Band, P.P. Arnold a The Hollies.
Ganwyd yn Hertford, Swydd Hertford ym 1944, a bu farw Dino o drawiad i'r galon yn 2004.