Dieppe
Oddi ar Wicipedia
- Gweler hefyd Dieppe (gwahaniaethu).
Dinas a chymuned yng ngogledd Ffrainc yw Dieppe, a leolir yn département Seine-Maritime yn rhanbarth Haute-Normandie. Mae'n borthladd sy'n gorwedd ar aber Afon Arques ar lan Môr Udd (la Manche neu'r 'Sianel'). Pobogaeth: 34,449 (2007).
Sefydlwyd treflan ar safle Dieppe gan y Llychlynwyr yn 910. Tella oedd enw'r afon yn y cyfnod hwnnw ond fe'i gelwyd yn Djupr ('dwfn') gan y Llychlynwyr a dyma darddiad enw dinas Dieppe. Fe'i cipwyd gan y Saeson yn 1420. Yn 1430 carcharwyd Jeanne d'Arc yno cyn ei chymryd i Rouen. Bu gan Dieppe ran amlwg yn anturiaethau morwrol y Ffrancod ar ddiwedd yr Oesoedd Canol fel man cychwyn sawl mordaith fasnachol a threfedigaethol i Affrica a'r Amerig.
Dolenni allanol [golygu]
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
- Gwefan swyddogol Dieppe (Ffrangeg)