Deobandi

Oddi ar Wicipedia
Deobandi
Enghraifft o'r canlynolenwad crefyddol, mudiad crefyddol Edit this on Wikidata
CrefyddSunni edit this on wikidata
Rhan oSunni Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1867 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mudiad Islamaidd yw'r Deobandi. Tarddodd yn Dar al-Ulum (ysgol neu goleg crefyddol) Deoband yng ngogledd yr India ym 1867 gan ddilynwyr Sayyid Ahmad Reza Khan Barelwi. Addysgid Mwslimiaid mewn modd ceidwadol y ffydd, gan bwysleisio'r hadith a thraddodiad cyfreithiol yr Hanafi a ffurf gymedrol ar Swffïaeth. Lledaenodd y Deobandiaid ar draws India a Phacistan. Ers y 1920au mae mudiad rhyngwladol y Tablighi Jamaat yn parháu safbwynt anwleidyddol y Deobandiaid gwreiddiol. Trodd rhai yn y mudiad yn wleidyddol ac yn wrth-Orllewinol yn sgil rhaniad India a Phacistan ym 1947. Datblygodd tueddiadau eithafol o rengoedd y Deobandi gan grwpiau sy'n proffesu Islamiaeth megis Jamiatul Ulama-i Islam ym Mhacistan a'r Taleban yn Affganistan.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) "Deobandis" yn The Oxford Dictionary of Islam (Oxford Islamic Studies Online). Adalwyd ar 1 Rhagfyr 2016.
Eginyn erthygl sydd uchod am Islam. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.