Denzel Washington
Oddi ar Wicipedia
Mae Denzel Hayes Washington, Jr. (ganed 28 Rhagfyr, 1954) yn actor a chyfarwyddwr Americanaidd. Mae ef wedi cael ei ganmol yn fawr am ei ffilmiau ers y 1990au, gan gynnwys ei bortreadau o gymeriadau hanesyddol, megis Steve Biko, Malcolm X, Rubin Carter, Melvin B. Tolson, Frank Lucas a Herman Boone.
Mae Washington wedi derbyn tair Gwobr Golden Globe a dwy o Wobrau'r Academi am ei waith. Ef hefyd yw'r ail Americanwr-Affricanaidd yn unig i dderbyn Gwobr yr Academi am yr Actor Gorau, a dderbyniodd yn 2001 am ei rôl yn y ffilm Training Day.