Delme Bryn-Jones

Oddi ar Wicipedia
Delme Bryn-Jones
GanwydDelme Jones Edit this on Wikidata
29 Mawrth 1934 Edit this on Wikidata
Brynaman Edit this on Wikidata
Bu farw25 Mai 2001 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcanwr opera Edit this on Wikidata
Arddullopera Edit this on Wikidata
Math o laisbariton Edit this on Wikidata

Roedd Delme Bryn-Jones (a anwyd fel Delme Jones; 29 Mawrth 193425 Mai 2001) yn fariton Cymraeg.

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]

Ganwyd Delme Jones ym Mrynaman, Sir Gaerfyrddin yn 1934.[1] Fe'i addysgwyd yn Ysgol Gynradd Brynaman a'n hwyrach yng Ngholeg Technegol Rhydaman.[2]

Yn weithiwr glo yn wreiddiol, gadawodd ei waith a'r cyfle i gael gyrfa ym myd rygbi, ble roedd yn chwarae'n rhyngwladol dan-21, i astudio cerddoriaeth.  Astudiodd gyda Redvers Llewellyn ac yna yn y Guildhall School of Music and Drama ac yna aeth i'r Vienna Music Academy.  Fel canwr proffesiynol cymerodd yr enw proffesiynol, "Bryn-Jones" (Bryn o'i fro enedigol).  Perfformiodd yn broffesiynol am y tro cyntaf yn 1959 yn Theatr Sadler's Wells.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Nid oedd siwrne Bryn-Jones i dai opera mawr y byd yn un confensiynol, gan iddo gyd-ddigwydd ag oes aur y byd opera Cymraeg. Bu'n perfformio gyda chwmniau opera mawr fel a ganlyn: Am y tro cyntaf gyda'r New Opera Company yn 1959 (The Sofa Maconchy). Cymerodd ran Macbeth gyda Gwyneth Jones gyda'r Cwmni Opera Cymreig yn 1963 tra hefyd yn perfformio am y tro cyntaf gyda Glyndebourne fel Nick yn The Rake's Progress.  Gwnaeth ei berfformiad cyntaf yn Y Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden yn 1963 ac yna eto yn 1965 gan ganu Paolo gyda Tito Gobbi yn chwarae rhan Boccanegra a blwyddyn yn ddiweddarach canodd ran Marcello yn opera Puccini La Boheme.  Perfformiodd am y tro cyntaf yn yr Unol Daleithiau yn 1967 yn y San Francisco Opera fel Lescaut yn Manon a Donner yn Das Rheingold. Clywodd y Vienna State Opera amdano am y tro cyntaf yn 1969 fel Renato yn Un Ballo in Maschera gan Verdi.

Bu'n ymladd alcoholiaeth yn breifat. Yn ei flynyddoedd olaf, daeth yn Lywydd Cor Meibion Rushmoor Oddfellows o Aldershot, Hampshire, ac yn y flwyddyn 2000 mwynhaodd glodydd mawr am gyfres o ddosbarthiadau meistri a datganiadau radio yng Nghanada.  Ymddangosodd Jones ar y teledu ac ar y radio gannoedd o weithiau yn cynnwys nifer o gyfresi teledu ei hunan, megis Y Gelli Aur (The Golden Grove; BBC Wales) a Delme (S4C).  Bu'n actio hefyd, gan ymddangos fel Captain Cat yn Under Milk Wood, a Blind Dick Llewellyn yng nghynhyrchiad y BBC o Off to Philadelphia in the Morning gan Jack Jones.

Rolau dethol[golygu | golygu cod]

  • BeethovenFidelio (Don Pizarro)
  • Berlioz – La Damnation de Faust (Méphistophélès)
  • Bizet – Les pêcheurs de perles (Zurga)
  • Britten – A Midsummer Night's Dream (Demetrios)
  • Cilea – Adriana Lecouvreur (Michonnet)
  • Donizetti – Don Pasquale (Malatesta)
  • Giordano – Andrea Chenier (Gerard)
  • Gluck – Alceste (Hercule)
  • Mascagni – Cavalleria Rusticana (Alfio)
  • Mozart – Così fan tutte (Guglielmo)
  • Mozart – Le nozze di Figaro (Almaviva)
  • Mozart – Die Zauberflöte (Papageno, speaker)
  • PucciniButterfly (Sharpless)
  • Puccini – Il Tabarro (Michele)
  • VerdiAida (Amonasro)
  • Verdi – Falstaff (Ford)
  • Verdi – Otello (Iago)
  • Verdi – Rigoletto (rôl y teitl)
  • Verdi – La traviata (G. Germont)
  • Verdi - Nabucco (Rôl y teitl)
  • Weber – Abu Hassan (Omar)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Davies, John; Jenkins, Nigel; Menna, Baines; Lynch, Peredur I., gol. (2008). The Welsh Academy Encyclopaedia of Wales. Cardiff, UK: University of Wales Press. t. 95. ISBN 978-0-7083-1953-6.
  2. "Opera Singer: Delme Bryn-Jones". Ammanford Web Site. 2010. Cyrchwyd 28 December 2011.