Dar es Salaam

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Dar es Salaam

Dar es Salaam (Arabeg:دار السلام "Mangre Heddwch"), gynt Mzizima, yw dinas fwyaf Tansanïa. Mae Dar es Salaam yn ffurfio rhanbarth gweinyddol o fewn Tansanïa, ac wedi ei rhannu yn dair ardal weinyddol: Kinondoni yn y gogledd, Ilala yn y canolbarth a Temeke yn y de. Yn 2002, roedd poblogaeth y ddinas yn 2,497,940.

Hyd 1996, Dar es Salaam oedd prifddinas Tansanïa, ond y flwyddyn honno daeth Dodoma yn brifddinas. Dar es Salaam yw'r ddinas bwysicaf o safbwynt economaidd ac mae'n aros yn brifddinas fasnachol y wlad. Mae'r boblogaeth yn tyfu 4.39% y flwyddyn, y trydydd cyflymaf yn Affrica a'r nawfed yn byd.