Cystennin XI

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cystennin XI

Cystennin XI Palaiologos neu Palaeologus, Groeg: Κωνσταντίνος ΙΑ' Δραγάσης Παλαιολόγος, Kōnstantinos XI Dragasēs Palaiologos (8 Chwefror, 1405 - 29 Mai, 1453), oedd ymerawdwr olaf yr Ymerodraeth Fysantaidd.

Ganed ef yng Nghaergystennin, yn wythfed o ddeg plentyn yr ymerawdwr Manuel II Palaiologos a Helena Dragaš. Bu'n llywodraethu Caergystennin o 1437 hyd 1440, pan oedd ei frawd hŷn Ioan VIII Palaiologos yn yr Eidal. Daeth yn despotes Morea (y Peloponnesos) yn hydref 1443, gyda'i brifddinas yn Mistra.

Pan fu farw ei frawd Ioan VIII Palaiologos, bu ymryson am yr orsedd rhwng Cystennin a'i frawd Demetrios Palaiologos. Gogynnwyd i'r Swltan Ottomaniaidd Murad II benderfynu rhyngddynt, a Chystennin a ddewiswyd. Coronwyd ef yn Mistra ar 6 Ionawr, 1449.

Bu farw Murad yn 1451, a than ei fab Mehmed II gwaethygodd y berthynas rhwng yr Ottomaniaid a Chaergystennin. Yn ystod gaeaf 1451-52, adeiladodd Mehmed gaer Rumelihisari, ychydig i'r gogledd o ddinas Caergystennin, i baratoi am warchae. Apeliodd Cystennin am gymorth o'r gorllewin, ond ni chafodd lawer, yn rhannol oherwydd fod ei ddeiliad yn gryf yn erbyn ei ymdrech i uno'r Eglwys Uniongred Ddyreiniol a'r Eglwys Gatholig. Dechreuodd y gwarchae yng ngaeaf 1453. Gwrthododd Cystennin gynnig Mehmed II o roi Mistra iddo i'w rheoli pe bai'n ildio Caergystennin. Ar 29 Mai, 1453, llwyddodd y fyddin Ottomaniaidd i gyrraedd i mewn i'r ddinas. Gwelwyd yr ymerawdwr yn taflu ei glogyn porffor ymaith ac yn arwain ei filwyr mewn ymosodiad olaf. Yn ôl rhai fersiynau o'r hanes, ni lwyddwyd i ddarganfod ei gorff wedi'r frwydr.

Ystyrir ef yn sant gan yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol, er na wnaed ef yn sant yn swyddogol.