Cystennin II, brenin y Groegiaid

Oddi ar Wicipedia
Cystennin II, brenin y Groegiaid
Y Brenin Cystennin II yn Ebrill 1966.
Ganwyd2 Mehefin 1940 Edit this on Wikidata
Athen Edit this on Wikidata
Bu farw10 Ionawr 2023 Edit this on Wikidata
o strôc, syndrom amharu ar organau lluosog Edit this on Wikidata
Hygeia Hospital Edit this on Wikidata
Man preswylPlasty'r Arlywydd, Maestref Parc Hampstead, Porto Cheli, y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGwlad Groeg, Teyrnas Gwlad Groeg, Brenhiniaeth Denmarc Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Anavryta Classical Lyceum
  • Prifysgol Genedlaethol a Kapodistrian Athen
  • Prifysgol Caergrawnt
  • Victoria College
  • NATO School Oberammergau Edit this on Wikidata
Galwedigaethteyrn, morwr Edit this on Wikidata
SwyddBrenin y Groegiaid Edit this on Wikidata
Taldra189 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau80 cilogram Edit this on Wikidata
TadPawl, brenin y Groegiaid Edit this on Wikidata
MamFriederike o Hannover Edit this on Wikidata
PriodY Frenhines Anne-Marie o Wlad Groeg Edit this on Wikidata
PlantPrincess Alexia of Greece and Denmark, Pavlos, Crown Prince of Greece, Prince Nikolaos of Greece and Denmark, Princess Theodora of Greece and Denmark, y Tywysog Philippos o Wlad Groeg Edit this on Wikidata
PerthnasauMargareta of Romania, Prince Constantijn of the Netherlands, Yr Uwch-Ddug George Mikhailovich o Rwsia, Prince Philip, Hereditary Prince of Serbia, y Tywysog Alecsander o Serbia, wiliam Mountbatten-Windsor, Infanta Elena, Duchess of Lugo, Infanta Cristina of Spain, Felipe VI, Leonor, Infanta Sofía o Sbaen Edit this on Wikidata
LlinachLlinach y Glücksburgs Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Urdd y Cnu Aur, Marchog Uwch Groes gyda Choler Urdd Sant Olav, Uwch Groes y Marchog gyda Choler Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Marchog Urdd yr Eliffant, Urdd y Gwaredwr, Urdd Sant George a Constantine, Urdd y Ffenics, Urdd y Cnu Aur, Urdd Sant Olav, Urdd Sior y Iaf, Marchog Cadlywydd Urdd y Dannebrog, Urdd Llew Aur Llinach Nassau, Urdd Brenhinol y Seraffim, Medal Pen-blwydd ar achlysur 25 mlynedd ers sefydlu Ymerodraeth Iran, Knight of the Order of the Most Holy Annunciation, Marchog Uwch Groes Urdd y Seintiau Maurice a Lasarus, Knight grand cross of the order of the crown of Italy Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.greekroyalfamily.gr/en/king-konstantinos.html Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeonTeyrnas Gwlad Groeg Edit this on Wikidata

Uchelwr o Dŷ Glücksburg oedd Cystennin II (Groeg: Κωνσταντίνος Βʹ, Konstantínos II; 2 Mehefin 194010 Ionawr 2023) a fu'n Frenin y Groegiaid o 6 Mawrth 1964 hyd at ddiddymu'r frenhiniaeth ar 1 Mehefin 1973.

Ganed ef yn Psikhikó, Athen, Teyrnas Groeg, yn unig fab i'r Tywysog Coronog Pawl a'i wraig Friederike, Tywysoges Hannover, wyres y Caiser Wilhelm II. Y Brenin Siôr II oedd brawd hŷn Pawl, ac felly ewythr Cystennin. Gorfodwyd y teulu brenhinol yn alltud yn sgil goresgyniad Groeg gan yr Almaen Natsïaidd yn Ebrill 1941, yn gyntaf i ynys Creta ac yna i Alecsandria, a threuliodd Cystennin weddill yr Ail Ryfel Byd yn Ne Affrica. Dychwelodd Siôr II a'i deulu i Wlad Groeg ym 1946 wedi i bleidleiswyr y wlad gytuno i adfer y frenhiniaeth. Bu farw Siôr ym 1947 ac esgynnodd Pawl i'r orsedd, a dyrchafwyd Cystennin felly yn Dywysog Coronog Groeg.

Derbyniodd y Tywysog Cystennin ei addysg yng Ngholeg Anavryta yn Athen, ysgol a seiliwyd ar syniadau Kurt Hahn, ac ym Mhrifysgol Athen. Yn 18 oed dechreuodd ymwneud â materion gwladol a'i dyletswyddau fel etifedd y goron, gan gynnwys mynychu cyfarfodydd y cabinet ac arolygu'r lluoedd arfog. Roedd yn hoff iawn o hwylio, ac enillodd wobr aur yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1960.[1] Yn 23 oed, olynodd Cystennin ei dad yn Frenin y Groegiaid yn sgil marwolaeth Pawl ar 6 Mawrth 1964. Chwe mis yn ddiweddarach, ar 18 Medi, priododd Cystennin II â'i gyfnither y Dywysoges Anne-Marie, merch Ffredrig II, Brenin Denmarc. Cawsant bump o blant: y Dywysoges Alexia (g. 1965), y Tywysog Coronog Pavlos (g. 1967), y Tywysog Nikolaos (g. 1969), y Dywysoges Theodora (g. 1983), a'r Tywysog Philippos (g. 1986).

Ofnai Cystennin y byddai'r adain chwith yn orddylanwadu ar y fyddin, ac felly diswyddodd y Prif Weinidog Georgios Papandreou yng Ngorffennaf 1965. Penododd brif weinidogion dros dro nes i'r fyddin gipio grym ar 21 Ebrill 1967. Ceisiodd y brenin arwain gwrth-coup o ogledd y wlad ar 13 Rhagfyr 1967, ond heb fawr o gefnogwyr, a ffoes gyda'i deulu i Rufain. Fodd bynnag, cynhaliwyd y frenhiniaeth yn swyddogol gan y jwnta, a phenodwyd rhaglyw i wasanaethu yn lle'r brenin. Rhoddwyd caniatâd i Cystennin ddychwelyd i Wlad Groeg os oedd am ailgymryd yr orsedd.[2]

Ar 1 Mehefin 1973, datganwyd Gweriniaeth Groeg gan y jwnta filwrol, a chadarnhawyd diddymu'r frenhiniaeth gan refferendwm ar 29 Gorffennaf 1973. Gwrthwynebwyd y bleidlais honno gan Cystennin. Wedi cwymp y jwnta ac ethol llywodraeth sifil yn Nhachwedd 1974, cynhaliwyd refferendwm arall ar bwnc y frenhiniaeth ar 8 Rhagfyr, a wnaeth unwaith eto cefnogi'r weriniaeth. Derbyniwyd y bleidlais honno gan Cystennin, er na chaniatawyd iddo ddychwelyd i Wlad Groeg yn ystod yr ymgyrch.

Bu farw Cystennin yn Athen yn 82 oed, bron 50 mlynedd wedi iddo ymddiorseddu.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) "King Constantine II of the Hellenes, last king of Greece, who spent most of his life in exile – obituary", The Daily Telegraph (11 Ionawr 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 11 Ionawr 2023.
  2. (Saesneg) Constantine II. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 17 Ionawr 2023.