Cyrchoedd awyr ar wersyll ffoaduriaid Jabalia

Oddi ar Wicipedia
Cyrchoedd awyr ar wersyll ffoaduriaid Jabalia
Enghraifft o'r canlynolcyrch awyr, cyfres o ddigwyddiadau Edit this on Wikidata
DyddiadHydref 2023 Edit this on Wikidata
Rhan oymosodiadau o'r awyr gan Israel ar wersylloedd sifiliaid Palesteinaidd yn Rhyfel Israel-Palesteina 2023 a 2024 Edit this on Wikidata
LleoliadJabalia refugee camp Edit this on Wikidata
Yn cynnwysShihab family killing, 31 October 2023 Jabalia refugee camp airstrike, al-Fakhoora school airstrikes, Abu Hussein school airstrike Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethGwladwriaeth Palesteina Edit this on Wikidata
RhanbarthLlain Gaza Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Yn ystod Rhyfel Gaza (2023), lansiodd Lluoedd Amddiffyn Israel (IDF) sawl cyrch awyr ar wersyll ffoaduriaid Jabalia yn Llain Gaza. Lladdwyd cannoedd o bobl o ganlyniad i'r cyrchoed, y mwyafrif helaeth ohonynt yn sifiliaid. Mae'r IDF wedi ceisio cyfiawnhau'r cyrchoedd gan ddadlau bod Hamas yn cuddio terfysgwyr ac arfau yn y gwersyll.

Yn y cyrch cyntaf ar 9 Hydref 2023, deuddydd wedi cychwyn y rhyfel, dinistriwyd y farchnad yn y gwersyll a lladdwyd dros 60 o bobl.[1] Tridiau'n hwyrach, ar 12 Hydref, lladdwyd 45 o bobl ac achoswyd difrod i adeiladau preswyl.[2] Bu farw 18 o ffoaduriaid o ganlyniad i'r trydydd cyrch awyr, ar 19 Hydref,[3] ac 22 Hydref lladdwyd o leiaf 30 o bobl, y nifer fwyaf ohonynt yn ferched a phlant, yn ystod ymgyrch fomio gyson ar ogledd Llain Gaza.[4] Ar 31 Hydref cyflawnwyd yr ymosodiad gwaethaf, gan ddinistrio nifer o adeiladau a lladd degau, o bosib cannoedd, o ffoaduriaid.

Lleolir y gwersyll 3 km i ogledd dinas Jabalia, sydd ei hun 4 km i ogledd Dinas Gaza. Ar gychwyn y rhyfel, trigiannodd ychydig yn uwch na 116,000 o ffoaduriaid Palesteinaidd yn y gwersyll, yn ôl cofnodion yr UNRWA, mewn ardal 1.4 km2. Hwn felly ydy'r mwyaf o'r wyth gwersyll ffoaduriaid a leolir yn Llain Gaza.[5] Ar 13 Hydref 2023 gorchmynnodd yr IDF wacâd gogledd Llain Gaza, gan gyfarwyddo'r holl sifiliaid yn yr ardal i symud i'r de i osgoi'r cyrchoedd awyr a'r brwydro. Fodd bynnag, mae tlodi ac amddifadrwydd y ffoaduriaid yn eu rhwystro i raddau helaeth rhag ymadael.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Raja Abdulrahmin ac Ameera Harouda, "Israeli Airstrike Hits Marketplace in Gazan Refugee Camp, Killing Dozens", The New York Times (9 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 9 Hydref 2023.
  2. (Saesneg) "45 Palestinians killed in IDF airstrike on residential building in Gaza’s Jabaliya refugee camp", The Times of Israel (13 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 31 Hydref 2023.
  3. (Saesneg) "18 Palestinians killed in Israeli air strikes on Gaza's Jabalia refugee camp -Hamas-run interior ministry", Reuters (19 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 31 Hydref 2023.
  4. (Saesneg) "Israeli air attacks kill 30 in Gaza’s Jabalia refugee camp: Civil defence", Al Jazeera (22 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 31 Hydref 2023.
  5. (Saesneg) Son Güncelleme, "Israel airstrike strikes Gaza's Jabalia refugee camp resulting in multiple casualties", Türkiye (9 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 31 Hydref 2023.