Cyngor Iaith Norwy
Oddi ar Wicipedia
Mae Cyngor Iaith Norwy (Norwyeg:Språkrådet)yn gorff cynghori ar ran Llywodraeth Norwy mewn materion yn ymwneud a'r Norwyeg a chynllunio iethyddol. Y cyfarwyddwr presynol yw Sylfest Lomheim.
Swydd y Cyngor iaith yw amddiffyn treftadaeth ddiwyllianol a gai ei gynrychioli gan y Norwyeg lafar ac ysgrifenedig, ysgogi menterau sydd yn cynyddu gwybodaeth o'r Norwyeg, ei hanes ac ei hunigrywiaeth, ysgogi goddefgarwch ymysg defnyddwyr ffurfiau gwahanol o'r Norwyeg ac amddiffyn hawliau pob dinesydd ynghylch a'u defnydd o'r Norwyeg.
Y mae'r cyngor yn rhoi cyngor i'r awdurdodau mewn materion sydd yn gysylltiedig ar iaith Norwyeg, yn enwedig ynglyn a defnydd y Norwyeg gan ysgolion, gan Y Gorfforaeth Ddarlledu Norwyaidd a gan gyrff llywodraethol. Cyflwyna ddatganiadau ynglyn a chyfundrefnu yr iaith ysgrifenedig ac enwau lleoedd, cynigia fesuriadau cyfreithiol ar faterion ynghylch yr iaith Norwyeg, rho gyngor ac arweiniad i'r cyhoedd, a hyrwydda a chyfrana at gydweithio rhyng lychlynol er meithrin iaith.
Sefydlwyd y cyngor mewn deddf gan Gyngor Iaith Norwy yn 1972. Ei brif argraffiad yw y cylchgrawn chwarterol Språknytt (Newyddion Iaith). Mae gan y cyngor staff o tua ugain ac mae yn ateb i'r Weinyddiaith Norwyaidd ar gyfer diwylliant a materion eglwysig.

