Croesgadwyr (rygbi)
Clwb rygbi'r undeb o Christchurch, Seland Newydd ydy'r Croesgadwyr (adnabyddwyd gynt fel y Canterbury Crusaders). Maent yn cystadlu yn y Super 14 (y Super 12 gynt). Hwn yw'r clwb mwyaf llwyddianus yn has y "Super". Mae'r masnachfraint yn cynyrchioli undebau teleithiol Buller, Canterbury, Canol Canterbury, De Canterbury, Tasman, ac Arfordir y Gorllewin. Lleolir eu maes cartref yn Stadiwm AMI, gynt Stadium Jade a Parc Lancaster.
Ffurfiwyr y clwb ym 1996 er mwyn cynyrchioli rhan uchaf Ynys y De, Seland Newydd yn y Super 12, gwingodd y clwb yn ei dymor cyntaf gan orffen yn olaf. Gwellhaodd eu perfformiad ym 1997 gan orffen yn chwecched allan o 12 tîm. Aeth y tîm ymlaen i ennill tri teitl rhwng 1998 a 2000 er iddynt chwarae pob gêm derfynnol i ffwrdd o'u cartref. Enillont unwaith eto yn 2002 wedi cwblhau'r tymor heb gael eu curo unwaith. Cyrhaeddont y rownd derfynnol yn y dwy dymor canlynol ond curwyd hwy i'r ail safle. 2005 oedd tymor olaf y Super 12 cyn iddi ehangu i gynnwys dau glwb arall a dod yn Super 14. Wedi gorffen ar y brig yn y tymor hwnnw, aeth y Croesgadwyr ymlaen i westeio'r rownd derfynnol ar eu maes cartref, gan guro'r Waratahs. Rhoddwyd tlws i'r glwb gadw wedi iddynt ennill eu pumed teitl Super 12. Yn 2006, cynhaliwyd gêm gyntaf y Super 14 rhwng y Croesgadwyr a'r Hurricanes yn eu maes cartref, ac enillont o 19–12. Yn 2008, daeth y rownd derfynnol i gartref y Croesgadwyr, a curodd y Coresgadwyr glwb y Waratahs unwaith eto, gyda 20–12 i hawlio eu seithfed teitl.
Chwaraewyr 2010 [golygu]
Dyma restr y chwaraewyr yn sgwad 2010:[1]
|
Propiau Bachwyr Clo |
Blaenwyr rhydd Cefnwyr hanner Maswyr |
Canolwyr Asgellwyr Cefnwyr |
Grŵp hyfforddi 2010 [golygu]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Crusaders - Player Profiles. Adalwyd ar 2010-01-17.