Corazon Aquino
Oddi ar Wicipedia
| Corazon Aquino | |
|---|---|
Arlywydd Aquino, 1986 |
|
| Ganwyd | 25 Ionawr, 1933 Paniqui, Tarlac, |
| Bu farw | 1 Awst, 2009 Makati, Pilipinas |
| Enwau eraill | Maria Corazon Cojuangco Aquino |
| Yn enwog am | Arlywydd y Pilipinas |
| Galwedigaeth | Gwleidydd |
Arlywydd y Pilipinas rhwng 1986 a 1992 oedd Maria Corazon Cojuangco Aquino (25 Ionawr 1933 - 1 Awst 2009). Hyhi oedd arlywydd benywaidd cyntaf y Pilipinas ac arlywydd benywaidd cyntaf Asia. Bu farw o gancr y coluddyn ar 1 Awst, 2009.
Cafodd ei geni yn Nharlac, yn ferch Jose Cojuangco a'i wraig Demetria Sumulong. Priododd Benigno Servillano "Ninoy" Aquino Jr yn 1954; gwleidydd oedd ef.