Copa Adda

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio
Copa Adda
Mynyddoedd Sri Lanka
Copa Adda (Sri Pada)
Llun Copa Adda (Sri Pada)
Uchder 2,243m / 7,359 troedfedd
Gwlad Sri Lanka

Mynydd o siâp pigyrnaidd yng nghanolbarth Sri Lanka yw Copa Adda (Sinhaleg, Samanalakanda "Mynydd glöyn byw"; Tamileg, Sivanolipatha Malai; Saesneg Adam's Peak neu Adam's Mount). Mae'n adnabyddus fel lleoliad y Sri Pada ("ôl troed sanctaidd"), craig 1.8 m ger y copa, sy'n sanctaidd yn nhraddodiad Bwdhaeth fel ôl troed y Bwdha, i Hindŵiaid fel ôl troed y duw Shiva ac i Fwslemiaid fel ôl troed Adda. Am hynny mae'n gyrchfan pererindod gan Fadwyr, Hindwiaid a Mwslemiaid, ac i raddau llai gan Gristnogion ac Iddewon (oherwydd y cysylltiad honedig ag Adda'r Beibl).

Gorwedd y mynydd ym mharthau deheuol Ucheldiroedd y Canolbarth, yn ardal Ratnapura yn nhalaith Sabaragamuwa, tua 20 km i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain o ddinas Ratnapura.

[golygu] Dolenni allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am Sri Lanka. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol