Cod QR
Math o god bar (neu god dau ddimensiwn) penodol sy'n ddarllenadwy gan ddarllenydd cod bar QR a ffonau camera yw cod QR (gair a dalfyrrwyd o Quick Response code; Cymraeg: Cod Ymateb Cyflym). Mae'r cod yn dangos modiwlau du sydd wedi eu trefnu i wneud sgwâr ar gefndir gwyn. Drwy ddefnyddio cod QR, mae modd amgodio testun, URL, neu ddata eraill.
Maent yn gyffredin yn Siapan, lle y crëwyd nhw gan is-gwmni Denso-Wave i Toyota ym 1994. Un o'r mathau o godau bar dau ddimensiwn mwyaf poblogaidd yw'r cod QR. Crëwyd y codau QR yn wreiddiol er mwyn tracio ceir y cwmni a chaniatáu dadgodio cyflym.[1]
Defnyddir y dechnoleg hon yn aml yn Siapan a De Korea, ond mae'r Gorllewin wedi bod yn eithaf araf yn ei mabwysiadu.[2]
Y dyfodol [golygu]
Bellach ceir nifer o apps sy'n galluogi'r ffonau clyfar i adnabod gwrthrychau e.e. mae Aurasma yn caniatau i ffôn y defnyddiwr i "adnabod" dillad ar fodel mewn ffenest siop Dunhill yn Efrog Newydd ac mae'r model yn siarad (ar y ffôn) gan ddisgrifio'r dillad mae'n ei wisgo. Rhannwyd 2 filiwn o apps Aurasma, a hynny heb gost. Mae Blippar yn gwneud gwaith tebyg i nwyddau cyrff megis Cadbury, Jack Daniels, a Tesco.[3]
Cyhoeddodd Pepsi'n ddiweddar fod y cwmni Pongr o Boston yn galluogi'r defnyddiwr i hepgor y codau QR gan sganio'r gwrthrych fel llun ar hysbyseb yn uniongyrchol i'w ffôn. Mae hyn gam yn y datblygiad pan y bydd "meddalwedd adnabod" yn caniatau i chi bwyntio'ch ffôn at adeilad ac o fewn eiliadau bydd tudalen neu erthygl Wicipedia yn agor gan ddisgrifio'r adeilad. Yn y cyswllt hwn, gellir edrych ar y codau QR fel rhywbeth dros dro.
Gweler hefyd [golygu]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ About 2D Code | QR Code.com Denso-Wave. Adalwyd 15 Mehefin 2011.
- ↑ Why isn't everyone using QR codes? | Oliver digital
- ↑ Gwefan Adweek.com; adalwyd 01/02/2012.