Clarice Phelps

Oddi ar Wicipedia
Clarice Phelps
Ganwyd1981 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner UDA UDA
Alma mater
  • Prifysgol Talaith Tennessee
  • Prifysgol Tennessee
  • Prifysgol Texas, Austin Edit this on Wikidata
Galwedigaethcemegydd, peiriannydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amTenesin Edit this on Wikidata

Cemegydd niwclear Americanaidd ydy Clarice E. Phelps (née Salone) sy'n gweithio yn Labordy Cenedlaethol Oak Ridge. Roedd hi'n aelod o'r tîm rhyngwladol fu'n puro berkelium-249, gan greu Elfen 117, (tenesin). Credir mai Phelps yw'r Affro-Americanwraig gyntaf i ganfod elfen gemegol.[1][2]

Yn yr Labordy Cenedlaethol Oak Ridge mae Phelps yn gweithio fel rheolydd prosiect ar gyfer defnydd diwydiannol o isotopau. Mae hi'n ymchwilio i brosesu elfennau ymbelydrol gyda rhifau atomig dros 92 megis plwtoniwm-238 sy'n cael ei ddefnyddio fel tanwydd ar gyfer teithiau gofod-dwfn NASA, a califforniwm-252 sydd o ddefnydd i astudiaethau darnau ymholltiad niwclear. Sefydlwyd Labordy Cenedlaethol Oak Ridge ym 1943 fel rhan o Brosiect Manhattan a dyma'r labordy gwyddoniaeth ac ynni mwyaf yn Adran Ynni yr Unol Daleithiau, gyda chyllideb flynyddol o $ 1.4 biliwn.[3][4][5][6][7]

Ysgol a choleg[golygu | golygu cod]

Dechreuodd diddordeb Phelps mewn gwyddoniaeth fel plentyn pan roddodd ei mam set microsgop a phecyn gwyddoniadurol iddi; cafodd y diddordeb hwn ei feithrin gan thrawon gwyddoniaeth ei hysgolion uwchradd.[4][8] Mynychodd sefydliad ieuenctid o'r enw "Grŵp Prosiect a Datblygiad Dŵr Dyfrol Tennessee" (sef Tennessee Aquatic Project and Development Group; TAP), sefydliad ieuenctid di-elw.[9] Enillodd Phelps radd Baglor mewn cemeg, o Brifysgol Talaith Tennessee yn 2003.[4][10]

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

  • Bradley D Patton, Sharon M Robinson, Dennis E Benker, Clarice E Phelps. "Lessons Learned from Processing Mark-18a Targets at Oak Ridge National Laboratory"[11]
  • Jamie L Warburton, Clarice E Phelps, Dennis E Benker, Bradley D Patton, Robert M Wham. "Uv-visible Spectroscopic Process Monitor for Hot Cell Mixer-settler Separations at Ornl’s Radiochemical Engineering Development Center"[12]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. undark.org; adalwyd Calan Mai 2019.
  2. "Clarice E Phelps | ORNL". www.ornl.gov. Cyrchwyd 2019-04-02.
  3. "Home | ORNL". www.ornl.gov. Cyrchwyd 2019-04-02.
  4. 4.0 4.1 4.2 "Clarice Phelps: Dedicated service to science and community | ORNL". www.ornl.gov. Cyrchwyd 2019-04-02.
  5. "Phelps wins YWCA Tribute to Women | ORNL". www.ornl.gov. Cyrchwyd 2019-04-02.
  6. Chapman, Kit (2019-08-27). Superheavy: Making and Breaking the Periodic Table (yn Saesneg). Bloomsbury USA. t. 160. ISBN 9781472953896.
  7. Oak Ridge National Laboratory (2017-01-30), Tennessine: Discovering a New Element, https://www.youtube.com/watch?v=AZVl6tQysl4, adalwyd 2019-04-03
  8. "STEM Magazine" (PDF). STEM Magazine. Cyrchwyd 2019-04-02.
  9. "Tennessee Aquatic Project and Development Group" (PDF). Tennessee Aquatic Project. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2015-02-01. Cyrchwyd 2019-04-02.
  10. "Spring Commencement Exercise" (PDF). Cyrchwyd 2019-04-02.
  11. "Lessons Learned from Processing Mark-18a Targets at Oak Ridge National Laboratory | ORNL". www.ornl.gov.
  12. "Uv-visible Spectroscopic Process Monitor for Hot Cell Mixer-settler Separations at Ornl's Radiochemical Engineering Development Center | ORNL". www.ornl.gov.