Chwarel Princess

Oddi ar Wicipedia
Chwarel Princess

Chwarel lechi yn rhan uchaf Cwm Trwsgl ym mhen draw Cwm Pennant, Gwynedd oedd Chwarel Princess (Cyf. OS SH554495). Credir iddi agor yn y 1860au, ac roedd wedi cau cyn 1890.

Gweithid y chwarel hon ar y cyd a Chwarel Prince of Wales gerllaw, ac roedd trac rheilffordd yn cysylltu'r ddwy chwarel. Fodd bynnag, ni fu'n llwyddiant masnachol.


Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato