Charles Hawtrey
Oddi ar Wicipedia
| Charles Hawtrey | |
|---|---|
![]() Charles Hawtrey |
|
| Ganwyd | 30 Tachwedd, 1914 Hounslow, Middlesex, |
| Bu farw | 27 Hydref, 1988 Deal, Swydd Gaint, |
| Enwau eraill | George Frederick Joffre Hartree |
| Yn enwog am | Ffilmiau Carry On |
| Galwedigaeth | Actor, cyfarwyddwr, digrifwr |
Actor comedi Seisnig oedd George Frederick Joffre Hartree (30 Tachwedd 1914 – 27 Hydref 1988). Roedd yn fwy adnabyddus o dan yr enw Charles Hawtrey.
Dechreuodd ei yrfa yn ifanc iawn, yn canu fel soprano a chynhyrchodd nifer o recordiau cyn symud i weithio ar y radio. Roedd ail hanner ei yrfa yn cynnwys gweithio ym myd y theatr (fel actor a chyfarwyddwr), y sinema (lle gweithiodd yn rheolaidd yn cefnogi Will Hay mewn ffilmiau o'r 1930au a'r 1940au megis The Ghost of St Michaels a'r ffilmiau Carry On), ac ar gyfresi teledu.
