Cerddoriaeth ddeheuol yr efengyl

Oddi ar Wicipedia
Cerddoriaeth ddeheuol yr efengyl
Arddangosfa animatronig o bedwarawd yr efengyl yn Amgueddfa Cymdeithas Cerddoriaeth Ddeheuol yr Efengyl yn Pigeon Forge, Tennessee.
Enghraifft o'r canlynolgenre gerddorol Edit this on Wikidata
Mathcerddoriaeth yr efengyl Edit this on Wikidata
GwladUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1890 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Genre o gerddoriaeth Gristnogol o daleithiau deheuol Unol Daleithiau America yw cerddoriaeth ddeheuol yr efengyl (Saesneg: southern gospel music) neu efengyl y de, a elwir hefyd yn yr efengyl wen (white gospel) am iddi darddu o'r Americanwyr Ewropeaidd, yn wahanol i'r brif ffurf arall ar gerddoriaeth yr efengyl, sef yr efengyl ddu. Datblygodd y ddwy genre ar wahân yn niwedd y 19g a dechrau'r 20g, y ddau draddodiad yn tarddu o'r mudiad efengylaidd Americanaidd ac yn tynnu i wahanol raddau ar gyfuniad o emynyddiaeth yr eglwysi gwynion a chaneuon ysbrydol yr Americanwyr Affricanaidd yn y 19g.

Mae geiriau caneuon deheuol yr efengyl yn canolbwyntio ar themâu Cristnogol megis iachawdwriaeth a grym gwaredigaeth, ffydd a thystiolaeth bersonol, a chyfeiriadau Beiblaidd, yn enwedig hanes Iesu Grist. Neges ysbrydoledig a dyrchafol sydd i'r gân, gan gyfleu gobaith, cariad a llawenydd, hyd yn oed os yw'n cyfeirio at ddioddefaint a phrofedigaeth.

Nodweddir efengyl y de gan leisiau cydgordiol, â chyfeiliant offerynnol y piano, y gitâr, drymiau, ac weithiau offerynnau pres. Cenir efengyl y de yn aml gan bedwarawd o leisiau gwrywaidd: y tenor, y prif lais, y bariton, a'r bas, gan greu harmonïau cryfion. Ymhlith y pedwarawdau enwocaf mae'r Blackwood Brothers (ers 1934), yr Oak Ridge Boys (ers 1947), y Statesmen Quartet (1948–2001), y Jordanaires (1948–2013), y Statler Brothers (1955–2002), a'r Gaither Vocal Band (ers 1981). Yn ogystal, mae nifer o grwpiau cymysg a chantorion a cherddorion unigol yn canu efengyl y de, gan gynnwys Vestal Goodman (1929–2003) a'r soprano Sandi Patty (g. 1956). Perfformir y gerddoriaeth hon mewn eglwysi, cyngherddau, ffeiriau, a gwyliau cerddorol.

Wrth ddatblygu yn ystod hanner cyntaf yr 20g, tynnodd ar arddulliau cerddorol eraill, gan gynnwys y felan, canu gwlad, a chanu'r Tir Glas. Yn ei thro, câi efengyl y de ddylanwad ar fathau eraill o gerddoriaeth yn yr Unol Daleithiau, yn enwedig canu gwlad a cherddoriaeth Gristnogol gyfoes.

Hanes[golygu | golygu cod]

Yn y 1910au a'r 1920au, dechreuodd emynau'r eglwysi gwynion golli'r hen sobrwydd, a chychwynnodd oes newydd o gerddoriaeth efengylaidd fywiog i godi'r galon. Dan ddylanwad cerddorion megis Charles McCallon Alexander (1867–1920), a weithiodd gyda John Wilbur Chapman (1859–1918), ac Homer Rodeheaver (1880–1955), un o gerddorion Billy Sunday (1862–1935), trawsnewidiodd arddulliau, offeryniaeth, a deunydd y gerddoriaeth. Cymerai'r piano le'r organ, a defnyddiwyd offerynnau eraill yn ogystal, er enghraifft y trombôn a genid gan Rodeheaver. Daeth geiriau'r emynau i gyfleu neges obeithiol a llon yn hytrach nag ymdriniaeth ddifrifol a phwyllog o'r efengyl. Yn y 1930au a'r 1940au, dylanwadwyd ar ganu'r efengyl gan fathau o gerddoriaeth boblogaidd y De, gan gynnwys cerddoriaeth hen ffasiwn a chanu gwerin a gwlad. Mae perfformiadau'r Teulu Carter, sydd yn cyfuno cerddoriaeth grefyddol yr eglwysig gwynion â thraddodiadau gwledig seciwlar Appalachia, yn esiampl o'r datblygiadu hyn.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Gospel music. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Tachwedd 2022.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Douglas Harrison, Then Sings My Soul: The Culture of Southern Gospel Music (Urbana, Illinois: University of Illinois Press, 2012).