Cerdd Anacreonaidd

Oddi ar Wicipedia
Cerdd Anacreonaidd
Enghraifft o'r canlynolpoetic form, Genre Edit this on Wikidata

Barddoniaeth sydd yn ymdrin â serch ac yfed gwin, yn nhraddodiad y bardd Groeg hynafol Anacreon, yw cerdd Anacreonaidd. Pennill byr ydyw fel rheol, gan amlaf o linellau saith neu wyth sill.

Bathwyd y term anacreontiques gan y bardd Seisnig Abraham Cowley, un o'r Metaffisegwyr, ym 1656, i ddisgrifio casgliad o'i gerddi a fu'n aralleiriadau honedig o benillion Anacreon, wedi eu trosi i fesur Saesneg a oedd i fod i gynrychioli'r fydryddiaeth Roeg wreiddiol.

Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.