Castelo da Rocha Forte

Oddi ar Wicipedia

Cyfesurynnau: 42°51′39.10″N 8°34′22.86″W / 42.8608611°N 8.5730167°W / 42.8608611; -8.5730167

Gwybodaeth gyffredinol
MathCastell
Arddull bensaernïolGothic (XIII canrif)
LleoliadSantiago de Compostela
CyfeiriadCorunna, Galisia
GwladSbaen
Codiad185m uwchlaw lefel y môr
Caewyd1467
Technical details
Arwynebedd y llawr4,000 msg
Cynllunio ac adeiladu
PerchennogYr Eglwys Babyddol
Fideo awyr o'r castell.

Saif adfail Castell Rocha Forte (Castelo da Rocha Forte neu weithiau Castelo dos Churruchaos) yn ardal Santiago de Compostela, Galisia, sy'n wlad ymreolaethol yn Sbaen. Cafodd y castell ei adeiladu gan Juan Arias fel lloches i'r Archesgob Pabyddol yn 1240 ac fe'i dymchwelwyd yn y "Rhyfel Mawr" gan y chwyldroadwyr Galisiaidd - yr Irmandiña - yn nechrau chwyldro 1467. Bu'r castell hwn am gyfnod o tua 227 mlynedd yn symbol o gryfder a chyfoeth yr Eglwys Babyddol.

Saif 185m uwchlaw lefel y môr ar 'Yr Hen Graig', a heddiw, ceir rheilffordd wrth ei ochr. Mae arwynebedd y tir lle saif y castell oddeutu 4,000 metr sgwâr ac mae'n eiddo i Archesgob Pabyddol Santiago. Yr hyn sy'n wahanol iawn am y castell hwn yw ei leoliad: llawr y dyffryn yn hytrach na chopa bryn. Y rheswm dros hyn, mae'n debyg oedd er mwyn rheoli'r mynd-a'r-dod gan godi trethi wrth wneud hynny. Mae wedi'i leoli rhwng trefi Noia a Padrón, ar lan Afon Sar.[1]

Gerllaw, saif Castriño Conxo, heneb sy'n dyddio'n ôl o bosib i 300 CC.

Rhyfel Mawr Irmandiña[golygu | golygu cod]

Yng ngwanwyn 1467 y taniwyd y wreichionen gyntaf pan oedd y werin bobl, merched, morwyr a gwŷr yr eglwys wedi cael llond bol o afiechydon (e.e. epidemig 1466), newyn a chael eu trin yn wael gan uchelwyr y wlad. Ffurfiodd y werin frawdoliaeth sanctaidd (Santa Irmandade) a chynyddwyd eu niferoedd fel caseg eira oherwydd y teimladau dwfn eu bod wedi cael eu camdrin am gyhyd. Bron cyn gynted ag y ffurfiwyd y Frawdolaeth ymosodwyd ar Castelo da Rocha Forte a'i drechu.

Chwyldro cymdeithasol a chenedlaetholgar rhwng 1467 a 1469 gan bobl Galisia oedd 'Rhyfel Mawr Irmandiña'. Yr enw Galisieg ar y chwyldroadwyr oedd Yr Irmadiños, a chlensiwyd eu hymgyrch gan orthrwm Teyrnas Castilla arnynt.[2][3]

Yn 1469 dechreuodd Pedro Madruga wrthymosodiad o Bortiwgal, gyda chefnogaeth llawer o'r uchelwyr a oedd yno ar ffo. Cefnogwyd ef hefyd gan frenhinoedd Portiwgal a Chastilla a byddin arfog archesgob Santiago de Compostela.

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Ail-grewyd y castell yma, ar sail tystiolaeth ddiweddar.

Ers 2001 mae yma ymchwil archaeolegol ar y gweill, gan i'r heneb gael ei chofrestru fel un o bwysigrwydd cenedlaethol. Roedd naw tŵr i'r castell, mewn ffurf consentrig, nid yn annhebyg i Gastell Biwmares. Ymhlith y creiriau a ddarganfuwyd yma y mae darnau o serameg, arian y cyfnod a pheli canon.[4] pezas de canles e pezas de elementos arquitectónicos, así como un bastión de forma trapezoidal que se apoia na roca en bo estado de conservación.[5]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

  • Castriño de Conxo - heneb o oddeutu 300 CC gyda sgythriadau ar wal ogof, luniau arfau gan fwyaf.
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Fonte documental fundamental para o coñecemento do patrimonio do arcebispado de Santiago de Compostela nos séculos XV e XVI, dos feitos relacionados coas revoltas irmandiñas e os conflitos señoriais do convulso século XV galego.
  2. . ISBN 0-19-820548-1. Unknown parameter |ano= ignored (help); Unknown parameter |autor= ignored (|author= suggested) (help); Unknown parameter |título= ignored (|title= suggested) (help); Unknown parameter |publicación= ignored (help); Missing or empty |title= (help)
  3. As primeiras revoltas medievais xa tiveran lugar en Europa durante a segunda metade do século XIV, despois da peste negra de 1348: a Jacquerie na Francia en 1358 ou a Revolta campesiña de 1381 en Inglaterra
  4. Sendo os máis representados o O, o + e un con forma de morro.
  5. Os traballos foron realizados polo equipo de investigación Arqueopat GI-1533, dirixido por Raquel Casal García e Fernando Acuña Castroviejo.