Castell Čachtice

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Castell Čachtice

Castell yn Slofacia yw Castell Čachtice (Slofaceg: Čachtický hrad, Hwngareg: Csejte vára). Fel Castell Csejte fe'i cysylltir a hanes a chwedl y Gowntes Erzsébet Báthory (Elisabeth Báthory), a lysenwir weithiau "Cowntes Draciwla".

Saif y castell ger pentref Čachtice. Cafodd ei adeiladu ganol y 13eg ganrif gan Kazimir o Dŷ Hont-Pázmány i warchod y ffordd i gyfeiriad Morafia. Yn nes ymlaen, daeth i feddiant Máté Csák, y teulu Stibor, ac wedyn i'r "Arglwyddes Waedlyd" Elisabeth Báthory. Roedd Čachtice, gyda'r tir a'r pentrefi o'i gwmpas, yn anrheg priodas gan y teulu Nádasdy ar achlysur priodas Elisabeth a Ferenc Nádasdy yn 1575.

Dolenni allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: