Erzsébet Báthory

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y Gowntes Erzsébet Báthory

Cowntes Hwngaraidd oedd Erzsébet Báthory (Hwngareg: Erzsébet Báthory; Slofaceg: Alžbeta Bátoriová; Tsieceg: Alžběta Báthoryová; Pwyleg: Elżbieta Batory; hefyd Elisabeth Bathory neu Elizabeth Báthory, 7 Awst 1560 – 21 Awst 1614), aelod o'r teulu Báthory sy'n enwog am amddiffyn Hwngari yn erbyn ymosodiadau Ymerodraeth yr Otomaniaid. Mae hi'n adnabyddus fel un o'r llofruddesau cyfresol mwyaf mewn hanes y cyfeirir ati yn aml fel y "Gowntes Waedlyd" neu "Arglwyddes Waedlyd Csejte", ar ôl y castell ger Trencsén (Trenčín), yn Nheyrnas Hwngari (Slofacia heddiw), lle treuliodd y rhan fwyaf o'i hoes fel oedolyn.

Priododd Ferenc Nádasdy yn 16 oed a symudodd i fyw yng Nghastell Csejte (Castell Čachtice) ym mynydyddoedd y Carpatiau. Roedd hi'n ferch ddysgedig a fedrai ddarllen Lladin, Groeg ac Almaeneg. Ar ôl marwolaeth ei gŵr, cafodd hi a phedair merch yn ei gwasanaeth eu cyhuddo o arteithio a lladd rhai cannoedd o forwynion a merched ifainc, gyda un tyst yn ei chyhuddo o ladd dros 600, er iddi gael ei dyfarnu yn euog mewn 80 cyhuddiad yn unig. Dywedir i hynny ddigwydd dros gyfnod o ryw ugain mlynedd, o tua 1590 hyd 1610. Yn 1610, cafodd ei charcharu yng Nghastell Csejte, lle arosodd mewn asgell o stafelloedd wedi'u bricio i mewn hyd at ei farwolaeth 4 mlynedd yn ddiweddarach yn 54 oed. Ni safodd mewn brawf llys swyddogol.

O ganlyniad i hanes Erzsébet Báthory, cafwyd sawl adroddiad, hanesyn a chwedl gwerin amdani yn honno ei bod yn ymdrochi mewn gwaed morwynion er mwyn cadw ei hieuenctid, ond ymddengys nad oes sail hanesyddol i'r adroddiadau hyn o gwbl. Mae'r chwedlau hyn wedi arwain at ei chymharu â Vlad III Dracula (Vlad the Impaler) o Wallachia, y cymeriad y seilir ffigwr y fampir ffuglennol Cownt Draciwla arno, yn rhannol, ac i lysenwau poblogaidd diweddar fel "Cowntes Draciwla".

Ond mae llawer sy'n ansicr ynghylch hanes y llofruddiaethau. Mae rhai haneswyr yn barnu fod rhesymau gwleidyddol-grefyddol am y cyhuddiadau am fod Erzsébet yn aelod amlwg o deulu Protestant grymus mewn gwlad gyda'r mwyafrif yn Gatholigion. Dywedir hefyd fod dyddiadur y Gowntes dan glo hyd heddiw yn archifdy'r wladwriaeth yn Budapest, ond does dim modd cadarnhau hynny.

Fel cymeriad ffuglennol, mae'r Gowntes wedi cael ei phortreadu mewn sawl ffilm a llyfr arswyd neu wedi eu ysbrydoli, yn cynnwys y ffilm Hammer Countess Dracula.