Carrie Bradshaw
Oddi ar Wicipedia
Sarah Jessica Parker yn chwarae rhan Carrie Bradshaw
Carrie Bradshaw-Preston yw adroddwr ffuglennol a phrif gymeriad comedi sefyllfa/drama HBO Sex and the City. Caiff y cymeriad ei chwarae gan yr actores Sarah Jessica Parker. Mae'n gymeriad rhannol hunan-gofiannol a grewyd gan Candace Bushnell, a gyhoeddodd y llyfr Sex and the City, yn seiliedig ar ei cholofn ei hun ym mhapur newydd y New York Observer.
Yn 2005, rhestrwyd Carrie Bradshaw yn rhif 11 o 100 o Gymeriadau Teledu Gorau ar sianel deledu Bravo.[1]
[golygu] Cyfeiriadau
[golygu] Dolenni Allanol
- (Saesneg) Tudalen Gartref Swyddogol Carrie Bradshaw
- (Saesneg) Gwefan swyddogol Sex and the City
- (Saesneg) Archif o'r erthyglau papur newydd Sex and the City gwreiddiol