Candace Bushnell

Oddi ar Wicipedia
Candace Bushnell
Ganwyd1 Rhagfyr 1958 Edit this on Wikidata
Glastonbury, Connecticut Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, awdur ysgrifau, newyddiadurwr, nofelydd, colofnydd Edit this on Wikidata
PriodCharles Askegard Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.candacebushnell.com Edit this on Wikidata

Newyddiadurwraig ac awdures Americanaidd yw Candace Bushnell (ganed 1 Rhagfyr 1958), sydd wedi'i lleoli yn Ninas Efrog Newydd. Mae'n fwyaf adnabyddus am ysgrifennu colofn yn ymwneud â rhyw a gafodd ei wneud yn lyfr o'r enw Sex and the City. Yn ei dro, cafodd y llyfr ei greu'n gyfres deledu hynod boblogaidd o'r un enw, ac yna i fod yn ffilm. Priododd Bushnell artist ballet ATB Dinas Efrog Newydd, Charles Askegaard ar y 4ydd o Orffennaf, 2002.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganwyd Bushnell yn Glastonbury, Connecticut. Pan adawodd ei chwrs ym Mhrifysgol Rice ar ddiwedd y 1970au, roedd yn enwog ar hyd Dinas Efrog Newydd fel partiwraig a chymdeithaswraig. Un o'i hoff glybiau oedd Studio 54. Yn hwyrach yn ei bywyd, cafodd swydd fel newyddiadurwr gyda'r New York Observer.

Ym 1994, gofynnodd ei golygydd iddi a fyddai diddordeb ganddi ysgrifennu colofn ar gyfer y papur. Derbyniodd Bushnell y swydd. Roedd hi eisiau colofn a oedd yn seiliedig ar yr hyn yr arferai hi a'i ffrindiau siarad amdano, a galwodd yr erthygl yn Sex and the City.

Ym 1998, dechreuodd HBO ddarlledu rhaglen o'r enw Sex and the City, a oedd yn seiliedig ar golofn Bushnell, er nad oedd yn union yr un peth. Cynyddodd y rhaglen deledu Sex and the City enwogrwydd Bushnell. Daeth y cynhyrchiad gwreiddiol o'r gyfres deledu i ben yn 2004 a darlledwyd y rhaglen olaf ar HBO ym mis Chwefror 2004.

Mae nifer o awduron wedi cymharu cymeriad Carrie Bradshaw ar y rhaglen deledu i Bushnell oherwydd mae gan Carrie golofn bapur newydd am rhyw a ffordd o fyw ac mae hithau hefyd yn mwynhau bywyd nos Efrog Newydd. Yn wir, mae llythrennau cyntaf Candace Bushnell yr un peth a Carrie Bradshaw. Mae Bushnell wedi datgan mewn nifer o gyfweliadau mai Carrie Bradshaw yw ei hail bersonoliaeth.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni Allanol[golygu | golygu cod]