Capel yr Ogof Laeth

Oddi ar Wicipedia
Capel yr Ogof Laeth
Enghraifft o'r canlynolcapel Edit this on Wikidata
CrefyddCatholigiaeth edit this on wikidata
Dechrau/Sefydlu1872 Edit this on Wikidata
Map
Enw brodorolCrypta lactea Edit this on Wikidata
GwladwriaethGwladwriaeth Palesteina Edit this on Wikidata
RhanbarthBethlehem Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.custodia.org/it/santuari/betlemme Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Capel Ogof Laeth y Forwyn Fair ( Lladin: Crypta lactea; Arabeg: مغارةآلسثئ‎) a elwir hefyd yn syml, yn Capel yr Ogof Laeth yn gapel Catholig ym Methlehem yn y Lan Orllewinol ym Mhalestina, a godwyd ym 1872.[1][2][3][4] Ers amseroedd Bysantaidd, mae'r lle wedi bod yn ganolfan pererindod Gristnogol bwysig. Yn rhan o'r adeiladau ceir hefyd gysegrfa a mynachlog yr Eglwys Gatholig ym Mhalestina. Mae'r Status Quo, sef dealltwriaeth 250 oed rhwng cymunedau crefyddol, yn berthnasol i'r safle.[5]

Y tu mewn

Hanes[golygu | golygu cod]

Adeiladwyd y capel Catholig presennol ym 1872 ar safle hen eglwys Bysantaidd o tua'r 5g, a dim ond rhan o'r llawr brithwaith mosäig sydd ar ôl.

Arwyddocâd[golygu | golygu cod]

Dywed traddodiad Cristnogol mai dyma'r man lle cafodd y "Teulu Sanctaidd" loches yn ystod cyflafan Herodr pan laddwyd llawer o blant, cyn i'r teulu ffoi i'r Aifft. Mae'r enw'n deillio o'r stori bod "diferyn o laeth" y Forwyn Fair wedi cwympo ar lawr yr ogof a newid ei liw i wyn.[6]

Mae rhai pobl yn ymweld â'r lle, sy'n cynnwys tair ogof wahanol, gan obeithio gwella o'u problemau, yn benodol, cyplau anffrwythlon,[7] a honnir bod y gysegrfa yn fan lle mae gweddïau dros blant yn cael eu hateb yn wyrthiol.[8]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

  • Eglwys y Santes Catrin, Bethlehem
  • Capel Maes y Bugail, Bethlehem

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "«La Gruta de la Leche en Belén» (Spanish)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-06-29. Cyrchwyd 2021-08-12.
  2. Kohn, Michael (2007-01-01). Israel & the Palestinian Territories (yn Saesneg). Lonely Planet. ISBN 9781864502770.
  3. Kirk, Martha Ann (2004-01-01). Women of Bible Lands: A Pilgrimage to Compassion and Wisdom (yn Saesneg). Liturgical Press. ISBN 9780814651568.
  4. Korb, Scott (2010-03-18). Life in Year One: What the World Was Like in First-Century Palestine (yn Saesneg). Penguin. ISBN 9781101186015.
  5. Cust, L. G. A. (1929). The Status Quo in the Holy Places. H.M.S.O. for the High Commissioner of the Government of Palestine.
  6. Ham, Anthony; Barbarani, Sofia; Lee, Jessica; Maxwell, Virginia; Robinson, Daniel; Sattin, Anthony; Symington, Andy; Walker, Jenny (2015-08-01). Lonely Planet Middle East (yn Saesneg). Lonely Planet. ISBN 9781743609637.
  7. http://www.ncregister.com/site/article/the_milk_grotto_church_heals_infertile_couples
  8. Serving the needy among the communities of Bethlehem, Custodia Terra Sanctae, 8 January 2017. Retrieved 19 December 2018

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]