Capbreton
Oddi ar Wicipedia
Marina Capbreton
Cymuned (commune) yw Capbreton (Gasgwyneg ac Ocsitaneg: Cap Berton, ynganer 'Cap-bertou'), a leolir ar lan Cefnfor Iwerydd yn département Landes yn rhanbarth Aquitaine. Poblogaeth: 7,565 (2006).
Sefydlwyd tref fechan ar y safle yn y 12fed ganrif. Mae'n hen borthladd pysgota sydd wedi troi'n ganolfan gwyliau boblogaidd. Ceir marina mawr yno.
Daw enw Ffrangeg y dref (hen ffurf: Cap-Breton) o'r enw Gasgwyneg, gyda'r 'r' yn symud trwy affeithiad. Er gwaethaf yr enw, does dim cysylltiad â Llydaw (Bretagne) felly. Am gyfnod byr yn ystod y Chwyldro Ffrengig cafodd yr enw gwneud Cap-Brutus, ar ôl y gwleidydd Rhufeinig, un o arwyr y Chwyldro.
Dolen allanol [golygu]
- (Ffrangeg) Gwefan swyddogol y dref