Canonau Dort

Oddi ar Wicipedia

Datganiad o farn y Synod Cenedlaethol a gynhaliwyd yn ninas Dordrecht yn yr Iseldiroedd yn 1618–19 yw Canonau Dort neu Ganonau Dordrecht, neu o dan eu teitl ffurfiol, Penderfyniad Synod Dort ar y Pum Prif Pwynt Athrawiaethol a Ddadleuir yn yr Iseldiroedd.[1] Ar y pryd, cyfeirid at Dordrecht yn aml yn Saesneg fel Dort neu Dordt.

Heddiw mae Canonau Dort yn rhan o Tair Ffurf Undod, un o safonau cyffesol llawer o eglwysi Diwygiedig o gwmpas y byd, gan gynnwys rhai'r Iseldiroedd, De Affrica, Awstralia a Gogledd America. Mae parhau i'w defnyddio fel safon yn dal i rwystro cydweithrediad agos rhwng dilynwyr Jacob Arminius, yr Haerwyr ac Eglwysi Diwygiedig yr Iseldiroedd.

Mewn gwirionedd, penderfyniad barnwrol yw'r canonau ar bwyntiau athrawiaethol a oedd yn destun dadl â'r Arminiaid ar y pryd. Flwyddyn wedi marwolaeth Arminius yn 1609, cyhoeddodd ei ddilynwyr ef bum erthygl eu Gwrthdystiad i ddatgan eu gwyriad oddi wrth Galfiniaeth lymach y Gyffes Felgig. Y canonau hyn yw barn y Synod yn erbyn y Gwrthdystiad hwn.[2] Er hynny, derbyniwyd diwinyddiaeth Arminaidd yn swyddogol gan y wlad yn nes ymlaen ac mae ffurfiau gwahanol ohoni wedi parhau o fewn Protestaniaeth, yn enwedig o fewn eglwysi Methodistaidd.[3]

Nid oedd bwriad i'r canonau esbonio athrawiaeth Ddiwygiedig yn ei chyfanrwydd, ond yn hytrach eglurhau'r pum pwynt athrawiaethol yr oedd dadlau drostynt.[4] Dywedir i bum pwynt Calfiniaeth[a][./Canonau_Dort#cite_note-5 [lower-alpha 1]] grynhoi Canonau Dort wedi i lyfryn yn 1963 eu poblogeiddio[5] ond nid oes perthynas hanesyddol rhwng y ddau beth hyn ac mae rhai ysgolheigion yn dadlau bod eu hiaith yn camlunio ystyr y canonau.[6]

Nodiadau[golygu | golygu cod]

  1. Llygriad llwyr, etholedigaeth diamod, iawn cyfyngedig, gras anorchfygol a dyfalbarhad y saint

 

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Horton, Michael (2011). The Christian Faith. Grand Rapids: Zondervan. t. 562. ISBN 978-0310286042.
  2. Peterson, Robert; Williams, Michael (2004), Why I am not an Arminian, Downers Grove: InterVarsity Press, p. 124, ISBN 0830832483
  3. Olson, Roger E. (20 August 2009). Arminian Theology (yn Saesneg). InterVarsity Press. t. 14. ISBN 9780830874439. Arminian theology was at first suppressed in the United Provinces (known today as the Netherlands) but caught on there later and spread to England and the American colonies, largely through the influence of John Wesley and the Methodists.These Canons of Dordt (or Dort) made by the Dutch Reformed Churches are still used in many reformed churches today.
  4. "Canons of Dort". 4 Mehefin 2012.
  5. Stewart, Kenneth J. (2008). "The Points of Calvinism: Retrospect and Prospect". Scottish Bulletin of Evangelical Theology 26 (2): 189–193. http://www.covenant.edu/docs/faculty/Stewart_Ken/Points%20of%20Calvinism%20Retrospect%20and%20Prospect.pdf#page=2.
  6. Muller, Richard A. (2012). Calvin and the Reformed Tradition (arg. Ebook). Grand Rapids, MI: Baker Academic. tt. 50–51.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • But for the Grace of God gan Cornelis P. Venema
  • The Golden Chain of Salvation gan John Bouwers
  • Unspeakable Comfort gan Peter Feenstra
  • The Voice of Our Fathers gan Homer Hoeksema
  • The Reformed Doctrine of Predestination gan Lorraine Boettner
  • She Synod of Dordt gan Thomas Scott
  • The Canons of Dordt gan Henry Peterson
  • The Five Points of Calvinism gan David Steele a Curtis Thomas
  • The Works of John Owen, Vol. 10
  • TULIP gan William Jay Hornbeck II

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]