Candide
Oddi ar Wicipedia
Nofel ddychanol gan Voltaire yw Candide, ou l'optimisme (1759). Trwy gyfrwng chwedl athronyddol, yn ôl chwaeth y cyfnod, mae'r awdur yn dychanu optimistiaeth athronwyr fel Leibniz a Rousseau ac yn dangos nad yw "popeth am y gorau yn y gorau o bob byd posibl", chwedl Pangloss, athro naïf y Candide ifanc.