Camilla, Duges Cernyw
Oddi ar Wicipedia
Camilla, Duges Cernyw (Camilla Rosemary; Shand cyn priodi, Parker Bowles yn flaenorol; ganwyd 17 Gorffennaf 1947) yw ail wraig y Tywysog Siarl, Tywysog Cymru. Mae ei theitelau eraill hi'n cynnwys Tywysoges Cymru, Duges Cernyw, Duges Rothesay ac Iarlles Caer. Er i Camilla ddod yn Dywysoges Cymru'n awtomatig yn sgìl priodi Tywysog Cymru, mae'n well ganddi ddefnyddio'i theitl llai o Duges Cernyw, felly yn osgoi dryswch â gwraig gyntaf Tywysog Cymru, Diana, Tywysoges Cymru.[1] Mae hi hefyd yn defnyddio'r teitl yma ym mhobman ond i'r Alban, lle mae hi'n defnyddio Duges Rothesay.[2]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ The Sunday Times. 03.04.2005.
- ↑ " TRH The Prince of Wales and The Duchess of Cornwall[dolen marw]