Calum Stewart

Oddi ar Wicipedia
Calum Stewart
Ganwyd1998 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethdigrifwr Edit this on Wikidata

Digrifwr yw Calum Stewart (ganwyd 1998). Magwyd ef ym Maglan ger Mhort Talbot ac mae'n perfformio yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Noder y sillefir ei enw, Calum, gydag un 'l' ac nid dwy.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Magwyd Calum yn ardal Port Talbot a mynychodd ysgolion Cymraeg yn yr ardal. Mae ganddo Syndrom Asperger ac mae'n trafod hyn yn ei gomedi. Mae'n disgrifio ei hun ar ei broffil Twitter fel "An autistic Welsh speaking goth because everyone loves a niche".[1]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Dechreuodd berfformio yn Hydref 2015. [2]

Mae wedi perfformio mewn amryw o wyliau comedi gan gynnwys Gŵyl Gomedi Machynlleth[3] a Gŵyl Caeredin lle perfformiodd yn y Bourborn Bar yn 2017.[4]

Cyrhaeddodd rownd gyn-derfynol cystadleuaeth 'Welsh Unsigned Stand Up Award' yn 2016.

Mae wedi cefnogi amryw o gomedïwyr amlwg megis Joe Lycett, Scott Capurro, John Gordillo, Ellie Taylor a Stuart Goldsmith.[5]

Ar 1 Ebrill 2017 cymerodd ran yn noson gomedi Gala Wythnos Awtistiaeth y Byd i godi ymwybyddiaeth o'r cyflwr. Trefnwyd y noson gan yr Orbis Group sy'n cynnig gwasanaeth arbennig i blant, pobl ifanc ac oedolion sydd ag anghenion oherwydd awtistiaeth.[6]

Gwobr[golygu | golygu cod]

Enillodd wobr Welsh Unsigned Stand-up Award 2018 ym mis Tachwedd, a gynhaliwyd yng nghlwb Glee, Caerdydd. Gyda hynny, enillodd 'fez' borffor a £1,000.[7]

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. https://twitter.com/calumofstewart
  2. https://www.opencomedy.com/calumstewart
  3. https://machcomedyfest.co.uk/show/2017/beth-jones-josh-elton-a-calum-stewart-sioer-digrifwyr-newydd/
  4. https://www.comedy.co.uk/fringe/2017/calum_stewart_friends/
  5. https://www.comedycv.co.uk/calumstewart/index.html
  6. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-11-25. Cyrchwyd 2018-11-22.
  7. https://www.glee.co.uk/performer/wusa/