Cabbala Hermetig

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y Goeden Bywyd

Mae'r Cabbala Hermetig (o'r Hebraeg קַבָּלָה, "derbyniad"), yn draddodiad cudd a chyfriniol o'r Gorllewin. Mae'n ffurfio athroniaeth sylfaenol a fframwaith cymdeithasau hudol megis Urdd y Wawr Euraidd a'r urddau Thelemig, cymdeithasau cyfriniol megis Adeiladwyr yr Adytwm a Chymdeithas y Rhosgroes.

Mae'n cynnwys amrywiaeth o ddylanwadau, y mwyaf amlwg ohonynt ydy'r Cabbala Iddewig, sêr-ddewiniaeth y Gorllewin, y Tarot, alcemeg, Paganiaeth (yn enwedig Paganiaeth Roeg, Rhufain a'r Aifft), Neo-blatoniaeth, Gnostigiaeth, system Enochiaidd o ddewiniaeth angylaidd John Dee, Hermetigiaeth, Rhosgroesiaeth, Saeryddiaeth Rydd a Tantra. Y prif wahaniaeth rhyngddo a'r Cabbala Iddewig ydy ei fod yn system fwy syncretaidd. Serch hynny mae'n defnyddio llawer o gysyniadau'r Cabbala Iddewig.

Dwyfoldeb[golygu]

Mae'r Cabbala Hermetig yn ymwneud â natur dwyfoldeb, sydd yn cael ei ystyried mewn ffordd amgen i'r hyn a geir mewn crefyddau monotheistig. Er enghraifft, does dim gwahân llym rhwng dwyfoldeb a dyn fel y gwelir mewn monotheistiaethau. Mae'r Cabbala Hermetig yn dal i'r syniad neo-blatonaidd fod y bydysawd materol yn codi o'r duwdod fel rhes o darddiadau. Mae'r tarddiadau hyn yn codi allan o dri chyflwr rhagarweiniol a ystyrir i ragflaenu creadigaeth. Y cyntaf ydy cyflwr diddymdra, sef Ain (אין, "dim"); yr ail gyfle, a ystyrir yn "astudrwydd" sr Ain, ydy Ain Suph (אין סוף , "heb derfyn"); y trydydd cyflwr, sy'n cael ei achosi gan "symudiad" Ain Suph, ydy Ain Suph Aur (אין סוף אור , "golau heb derfyn"), ac o'r disgleirdeb dechreuol deilliai creadigaeth.

Y Sephiroth a'r Goeden Bywyd (סְפִירוֹת, unigol Sephirah סְפִירָה, "cyfrifiad") ydy enw tarddiadau'r greadigaeth sy'n codi o Ain Suph Aur. Mae yna ddeg sephirah. O Ain Suph Aur mae Kether yn dod, y sephirah cyntaf ar Goeden Bywyd y Cabbala Hermetig, ac o Kether y mae'r sephiroth eraill yn eu tro yn deillio.

Mae pob sephirah yn cynrychioli agwedd penodol o'r "golau dwyfol", sy'n llifo allan o'r anhysbys, trwy Kether, ac yn cyrraedd y degfed sephirah, Malkuth, sef y byd materol.

Wrth wraidd y Cabbala mae yna dri chysyniad sylfaenol. Gellir galw'r tri chysyniad yma ymwybyddiaeth, grym a ffurf. Mae'r geiriau yma yn cael eu defnyddio mewn ffordd haniaethol, fel mae'r enghraifft ganlynol yn dangos: Mae dŵr yr afon yn rhedeg i lawr y bryn dan rym dwyster. Mae sianel yr afon yn ffurf sy'n cyfyngu'r dŵr i ddilyn llwybr penodol

  • Mae gwleidydd eisiau newid y gyfraith. Mae fframwaith deddfwriaethol y wlad yn ffurf fydd rhaid iddo ei ddilyn i wneud hynny.
  • Mae dŵr yn sefyll mewn jwg. Mae grym dwyster yn tynnu'r dŵr i lawr. Y jwg ydy'r ffurf sy'n rhoi ei siâp i'r dŵr.
  • Dwi eisiau ennill gêm o wyddbwyll. Mae grym fy ewyllys i wireddu hynny yn cael ei gyfyngu gan ffurf y rheolau.

Mae'r enghreifftiau yma yn dangos dau beth: prosesau naturiol a dyheadau dynol. Ond yn ôl y Cabbala does dim gwahaniaeth. Ceir rymoedd materol sy'n achosi newid yn y byd naturiol, a grymoedd seicolegol sy'n achosi inni newid y byd ac ein hunain, ond mae grym naturiol a grym seicolegol ill dau yn deillio o'r un lle: ymwybyddiaeth.

Yn yr un ffordd ceir ffurfiau sy'n rheoli'r byd materol (deddfau naturiol) a ffurfiau sydd yn fympwyol, wedi eu creu gan ddynion, fel rheolau gêm, y gyfraith, dyluniad peiriant neu gystrawen iaith, ac yn naturiol neu ddynol maen nhw hefyd yn deillio o'r un lle: ymwybyddiaeth.

Ni ellir diffinio'r "ymwybyddiaeth" yma, sy'n achosi pob ymddangosiad o rym a ffurf yn y byd naturiol a'r byd seicolegol ill dau. Mae'r sephiroth fel petai yn cynrychioli ymddangosiadau neu gyflyrau o ymwybyddiaeth, ac mae'r Goeden Bywyd yn fath o fap sy'n dangos y llwybr mae ymwybyddiaeth yn ei gymryd wrth iddi deithio o'r anhysbys i'r byd materol: Kether (ymwybyddiaeth), Chokhmah (egni crai), Binah (gallu i gymryd ffurf), Chesed (creadigaeth ffurf), Geburah (distryw ffurf), Tiphareth (ymwybyddiaeth o ymwybyddiaeth), Netzach (ymwybyddiaeth o egni), Hod (ymwybyddiaeth o ffurf), Yesod (ymwybyddiaeth o'r byd) a Malkuth (y byd materol).

Rhwng y tri sephirah ar frig y Goeden a'r lleill mae yna agendor, sy'n cynrychioli'r ffin rhwng y meddwl dynol a'r meddwl dwyfol. Nodwedd y meddwl dynol ydy gweld y byd mewn termau o gyfyngiadau a deuoliaethau (amser a gofod, yma ac acw, ti a fi, da a drwg, Duw a Dyn ayyb) sy'n achosi'r ffin yma. O fewn y gagendor ceir lle a elwir Daath ("gwybodaeth"). Dydy Daath ddim yn un o'r deg sephirah, eithr yn dwll, ond stori (a throsiad) arall ydy hynny.

Y Tarot[golygu]

Mae'r Tarot yn bwysig i'r Cabbala Hermetig, gyda chardiau'r "Arcana Uchaf" yn cynrychioli'r sephiroth a'r llwybrau rhyngddynt. Mae'r sephiroth yn disgrifio natur Duw, tra mae'r llwybrau rhyngddynt yn disgrifio ffyrdd o ddod i adnabod Duw.

Hanes y Cabbala[golygu]

Cafodd y Cabbala Iddewig ei fabwysiadu gan y traddodiad Hermetig o leiaf mor gynnar â'r 15fed ganrif gyda gwaith Giovanni Pico della Mirandola, athronydd o'r Eidal oedd yn hyrwyddo athroniaeth syncretaidd gan gymysgu Platoniaeth, Neo-blatoniaeth, athroniaeth Aristotel, Hermetigiaeth a'r Cabbala. Cafodd hyn ei ddatblygu ymhellach gan Athanasius Kircher, Iesuwr a hermetigydd a ysgrifennai ar y pwnc rhwng 1652 a 1654 yn yr Oedipus Aegyptiacus, gan ychwanegu mytholeg yr Aifft ac Prphiaeth at y cymysgedd o ddylanwadau. Daeth y Cabbala Hermetig i'r amlwg tua diwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg trwy The Hermetic Order of the Golden Dawn, a ddatblygodd y Cabbala ymhellach i'w wneud yn fwy cydlynus o ran cydberthnasau'r dylanwadau gwahanol, ac adio dewiniaeth angylaidd John Dee yn ogystal â dylanwadau o Seryddiaeth Rydd, o Rhosgroesiaeth ac o'r Dwyrain at y cymysgedd.