Bryniau Valdai

Oddi ar Wicipedia
Bryniau Valdai
Mathcadwyn o fynyddoedd, bryn, ucheldir Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirRwsia Edit this on Wikidata
GwladBaner Rwsia Rwsia
Cyfesurynnau57°N 33.5°E Edit this on Wikidata
Map

Cadwyn o fryniau yng ngogledd-orllewin Rwsia yw Bryniau Valdai (Rwseg: Валда́йская возвы́шенность neu Валда́й) a leolir tua hanner ffordd rhwng St Petersburg a Moscfa gan ymestyn dros rannau o oblastau Novgorod, Tver, Pskov a Smolensk.

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod]

Mae Bryniau Valdaï yn estyniad i'r gogledd o lwyfandir canol Rwsia. Mae olion rhewlifoedd yn rhan amlwg o'r tirwedd yn ffurf moraines a gwaddodiau eraill. Mae'r bryniau yn cyrraedd eu man uchaf ger Vychni Volotchek lle ceir copa 346.9 metr. Bryniau Valdai yw tarddle sawl afon yn cynnwys Afon Volga, Afon Daugava, Afon Dnieper ac eraill. Yma hefyd ceir sawl llyn, er enghraifft Llyn Seliger, Llyn Brosno a Llyn Valdai.

Mae'r bryniau yn gyrchfan sy'n boblogaidd gan dwristiaid ac mae'r afonydd a llynnoedd yn denu nifer o bysgotwyr. Y prif drefi hanesyddol yw Ostachkov a Valdai. Mae rhan ogleddol Bryniau Valdai yn perthyn i warchodfa biosffer Parc Cenedlaethol Valdai.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

  • Clwb Valdai, fforwm i drafod gwleidyddiaeth Rwsia a'r byd
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: