Brwydr Sheriffmuir

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Roedd Brwydr Sheriffmuir yn ddigwyddiad hollbwysig yn ystod gwrthryfel y Jacobitiaid yn 1715-16. Brwydrodd ar 13 Tachwedd 1715 rhwng byddin Jacobitaidd odan arweiniaeth Iarll Mar, a byddin llywodraeth Prydain odan Iarll Argyll. Roedd byddin Mar yn llawer mwy na byddin Argyll, ond roedd canlyniad y brwydr yn ansicr; cafodd adain pob byddin eu troi gan y byddin arall, ac hawliodd buddugoliaeth gan y ddwy ochr. Yn y diwedd, fodd bynnag, achos nad oedd y Jacobitiaid wedi llwyddo mewn dinistrio llu yr Iarll Argyll, gwelwyd y brwydr fel colled gan y rhan fwyaf o'r byddin Jacobitaidd; erbyn 1716 cynnar, roedd y rhan fwyaf o gefnogwyr y Stuartiaid wedi rhoi'r gorau i'r gwrthryfel.