Borobudur

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Teml Borobudur

Mae Borobudur yn deml Fwdhaidd (o'r traddodiad Mahayana) ar ynys Jafa, Indonesia. Mae'n dyddio o'r 9fed ganrif ac yn cynnwys naw gwahanol lefel, y chwech isaf yn sgwar a'r tri uchaf yn grwn. Mae 2,672 o baneli cerfluniau a 504 cerflun o'r Bwda. Ar ran uchaf y deml mae 72 stwpa, pob un yn cynnwys cerflun o'r Bwdha, yn amgylchynu stwpa mawr canolog, sy'n wag. Saif rhyw 40 km i'r gogledd-orllewin o Yogyakarta yng nghanolbarth yr ynys.

Gall pererinion ddilyn taith o waelod y deml i'r rhan uchaf, gan basio trwy y tair lefel yn y gosmoleg Fwdaidd, sef Kamadhatu (byd y chwantau), Rupadhatu (byd y ffurfiau) ac Arupadhatu (byd y di-ffurf).

Nid oes cofnod ysgrifenedig o bwy a adeiladodd Borobudur na pha bryd, ond ystyrir i'r gwaith ddechrau tua 800 a'i orffen rhyw 75 mlynedd wedyn. Credir na ddefnyddiwyd Borobudur wedi i Fwdiaeth ddirywio ar ynys Jafa yn y 14eg ganrif a throedigaeth y mwyafrif o'r boblogaeth i Islam. Mae llawer o waith wedi ei wneud i drwsio a diogelu'r deml yn y blynyddoedd diwethaf, a Borobudur yw'r gyrchfan fwyaf poblogaidd i dwristiaid yn Indonesia.

Flag of Indonesia.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Indonesia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Dharma Wheel.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Fwdhaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.