Bioflits

Oddi ar Wicipedia
Bioflits
Mathbiological census Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cyfnod o arolygu biolegol dwys i gofnodi cymaint â phosib o rywogaethau ar safle neu ardal benodol yw bioflits (Saesneg: bioblitz). Cynhelir arolygaeth maes dwys am gyfnod didor (24 awr fel arfer) gan wyddonwyr, naturiaethwyr a gwirfoddolwyr. Mae yna elfen gyhoeddus i lawer o fioflitsiau gyda’r nod o ennyn diddordeb y cyhoedd mewn bioamrywiaeth. Er mwyn annog cyfranogiad y cyhoedd fe’u cynhelir yn aml mewn parciau cyhoeddus neu warchodfeydd natur yn agos i drefi.

Nodweddion[golygu | golygu cod]

Mae i fioflitsiau gyfleon a bendithion nad ydynt mor amlwg mewn arolygon maes mwy ffurfiol a gwyddonol. Mae rhain yn cynnwys:

  • Pleser - mae’r chwilio yn fwy cyffrous yn y ffram amser byr.
  • Lleol – cysylltir bioamrywiaeth â riffiau cwrel a fforestydd glaw trofannol. Mae’r bioflits yn rhoi cyfle y bobl weld gwerth yn eu milltir sgwar.
  • Gwyddoniaeth - mae’r achlysuron undydd hyn yn fodd i gasglu gwybodaeth dacsonomig sylfaenol ar rai grwpiau o rywogaethau
  • Cyfarfod gwyddonwyr - mae’n gyfle dysgu gwych i leugwyr a chyfle i wyddonwyr rannu eu harbenigedd
  • Darganfod rhywogaethau a chynefinoedd gwerthfawr newydd - gall rywogaethau prin eu darganfod am y tro cyntaf
  • Rhestr rhywogaethau - er nad ydy’r bioflits yn fodd i gasglu rhestr gyflawn o rywogaethau ynddo’i hun, mae’n gam i’r cyfeiriad hwnnw, ac yn fodd i adnabod bylchau yn y wybodaeth gallai haeddu sylw pellach.