Billy Graham
Oddi ar Wicipedia
Efengylydd Cristnogol yw William Franklin Graham, Jr. OBE, adnabyddir fel Billy Graham (ganed 7 Tachwedd 1918). Mae wedi rhoi cyngor ysbrydol i sawl Arlywydd yr Unol Daleithiau ac fe ddaeth yn seithfed ar restr Gallup o'r bobl gafodd eu hedmygu fwyaf yn ystod yr ugeinfed ganrif. Mae'n perthyn i enwad Bedyddwyr y De.
Dywedir bod Graham wedi pregethu'n fyw i fwy o bobl o amgylch y byd nag unrhyw un arall erioed. Hyd at 1993, roedd mwy na 2.5 miliwn o bobl wedi ymateb i'w apel yn ei ymgyrchoedd i "dderbyn Iesu Grist fel eu gwaredwr personol". Hyd at 2002, roedd ei gynulleidfa gydol oes, gan gynnwys darllediadau radio a theledu, wedi cynyddu i dros 2,000 miliwn.