Belmopan
Oddi ar Wicipedia
Delwedd:Prime Minister Building. Belmopan.jpg
Adeilad y Prif Weinidog, Belmopan
Belmopan yw prifddinas Belize yng Nghanolbarth America. Gyda phoblogaeth o tua 12,300, mae'n un o brifddinasoedd lleiaf y byd.
Saif Belmopan yng nghanolbarth y wlad, 76 medr uwch lefel y môr, ac ychydig i'r dwyrain i afon Belize. Adeiladwyd y ddinas wedi i'r brifddinas flenorol, Dinas Belize, gael ei dinistrio gan gorwynt yn 1961. Penderfynwyd fod yn rhaid cael prifddinas ar dir uwch ac ymhellach o'r môr. Daeth Belmopan yn brifddinas y wlad yn 1970.